Deddfwriaeth newydd i geisio atal ceiswyr lloches rhag croesi'r môr mewn cychod bychain

Mae'r Ysgrifennydd Cartref wedi cyhoeddi deddfwriaeth newydd er mwyn ceisio atal ceiswyr lloches rhag croesi'r môr o Ffrainc i Loegr mewn cychod bychain.
Yn ôl Suella Braverman, bydd y Bil Mewnfudo Anghyfreithlon "yn ein caniatau i atal y cychod sy'n cludo degau ar filoedd o bobl i'n ffiniau, gan dorri ein cyfreithiau, ac sy'n groes i ddymuniad pobl Prydain."
Mae pryderon y bydd y cynllun yn mynd yn groes i ddeddfau rhyngwladol, a methodd yr Ysgrifennydd Cartref a rhoi sicrwydd y bydd yn cydymffurio â rheolau rhyngwladol, wrth gael ei herio tra'n annerch ASau yn San Steffan.
Ychwanegodd y bydd y Deyrnas Unedig "wastad yn cefnogi y rhai mwyaf bregus yn y byd" gan nodi bod bron i hanner miliwn o bobl wedi cael lloches.
"Ers 2018, mae 85,000 o bobl wedi dod i mewn i'r Deyrnas Unedig yn anghyfreithlon mewn cychod bychain - 45,000 ohonyn nhw yn 2022 yn unig," meddai Ms Braverman.
Ychwanegodd fod nifer ohonynt wedi dod o wledydd "diogel" fel Albania a Ffrainc.
"Mae'r angen i ddiwygio'r drefn yn fater brys ac amlwg," meddai.
Dywedodd Ms Braverman wrth Aelodau Seneddol na fydd ceiswyr lloches yn rhoi'r gorau i geisio croesi'r môr i'r DU "nes bod y byd yn gwybod, 'os y dewch chi i Brydain yn anghyfreithlon, fe gewch chi eich dal a'ch symud oddi yma yn gyflym'."
Yn ôl yr Ysgrifennydd Cartref, bydd ceiswyr lloches yn cael eu hanfon yn ôl i'w gwledydd genedigol "os yw hynny'n ddiogel neu i i drydedd gwlad ddiogel, fel Rwanda."
Mae'r ddeddfwriaeth wedi cael ei beirniadu'n hallt gan wrthwynebwyr y cynllun, gydag elusennau ymhlith y rhai sy'n credu ei bod yn ddi dostur.
Ar ran y Blaid Lafur, dywedodd Ysgrifennydd Cartref yr wrthblaid Yvette Cooper bod hyn yn "anhrefn dwfn niweidiol. "