Dau i sefyll eu prawf yn dilyn marwolaeth merch ddwy oed yn Hwlffordd

Mae disgwyl i ddyn a dynes sefyll eu prawf yn dilyn marwolaeth merch ddwy oed yn Sir Benfro.
Bu farw Lola James yn yr ysbyty ar 21 Gorffennaf 2020, bedwar diwrnod ar ôl derbyn anaf difrifol i'w phen yn ei chartref yn nhref Hwlffordd.
Mae Kyle Bevan, 30, o Aberystwyth, wedi ei gyhuddo o'i llofruddio.
Mae ei mam, Sinead James, 29, wedi ei chyhuddo o achosi neu alluogi marwolaeth plentyn.
Bydd y ddau yn sefyll eu prawf yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth, gyda disgwyl i'r achos barhau am fis.
Mewn gwrandawiadau blaenorol, clywodd y llys fod Lola wedi dioddef anaf "trychinebus" i'w phen yn ei chartref ym mis Gorffennaf 2020.