UE gam yn nes at groesawu pobl wedi eu brechu ar wyliau

Traeth
Mae'r Undeb Ewropeaidd gam yn nes at groesawu teithwyr o wledydd gan gynnwys Prydain ar eu gwyliau unwaith eto.
Fe gytunodd y Comisiwn Ewropeaidd ddydd Mercher i alluogi i bobl deithio i'r UE ar ôl derbyn dau ddos o frechlyn sydd wedi ei gymeradwyo gan yr Asiantaeth Meddyginiaethau Ewropeaidd.
Y brechlynnau Covid-19 sydd wedi eu cymeradwyo gan y corff hyd yma yw Pfizer, Moderna, AstraZeneca ac un dos o frechlyn Johnson & Johnson (Janssen).
Bydd nawr angen i'r cynllun dderbyn cefnogaeth aelodau unigol o'r Undeb Ewropeaidd dros y dyddiau nesaf, yn ôl Sky News.
Darllenwch y stori'n llawn yma.