Cwest yn agor i farwolaeth actores o ardal Corwen
Cwest yn agor i farwolaeth actores o ardal Corwen

Mae cwest wedi clywed am "gyfres o fethiannau" arweiniodd at farwolaeth actores ifanc o ardal Corwen.
Bu farw Sara Anest Jones, 25 yn Ysbyty Brenhinol Stoke ar ôl bod mewn gwrthdrawiad car ger Bangor yn 2021.
Bu farw person arall yn y digwyddiad sef Gemma Pasage Adran, 32, a oedd yn nyrs o'r Ffilipinau. Fe glywodd cwest i’w hachos hi bod gan Sara Anest Jones deirgwaith y lefel gyfreithlon o alcohol yn ei gwaed.
Yn Stoke ddydd Llun, cafodd cwest llawn ei agor i farwolaeth Ms Jones.
Clywodd y gwrandawiad gan ei rhieni, a ddisgrifiodd Sara fel merch "llawn bywyd, llawn hwyl." Ond roedd hi hefyd wedi cael triniaeth ar gyfer nifer o gyflyrau iechyd meddwl yn cynnwys gorbyrder ac anorecsia.
Wedi’r gwrthdrawiad, cafodd Ms Jones ei hedfan yn syth i’r uned trawma arbenigol yn Ysbyty Stoke. Ond fe glywodd y cwest bod nifer o fethiannau wedi digwydd yn y driniaeth y derbyniodd hi yno.
Roedd sgan CT o Ysbyty Gwynedd wedi dangos ei bod hi’n bosib bod gan Sara anaf i’w pherfedd.
Ond ni wnaeth staff yn Stoke ymchwilio ymhellach i hynny wedi iddi gyrraedd. Yn y gwrandawiad, clywyd na chafodd hi ei gweld gan arbenigwr yn y maes hwnnw, daeth neb ati ar y wardiau, a mi fethodd nyrsys roi gwybod i arbenigwyr pan oedd ei chyflwr yn dirywio.
Ac er i’w mam ddweud wrth staff yr ysbyty bod bol ei merch yn galed, wnaethon nhw ddim ymchwilio i hynny chwaith.
Ar 2 Ebrill, bu farw Sara. Dangosodd archwiliad post mortem bod ganddi dwll un centimetr o hyd yn ei pherfedd a bron i litr o hylif yn ei bol. Roedd hynny wedi ei gwenwyno.
Dywedodd llefarydd ar ran y Bwrdd Iechyd lleol yn Stoke bod marwolaeth Sara Jones wedi cal ei deimlo drwy’r Bwrdd, a’u bod nhw’n ceisio dysgu gwersi ers hynny.
Mae’r gwrandawiad yn parhau.