Non Parry: Diagnosis awtistiaeth yn 'rhyddhad'
Non Parry: Diagnosis awtistiaeth yn 'rhyddhad'

Mae Non Parry, o’r grŵp pop Eden, wedi rhannu ei phrofiad o dderbyn diagnosis awtistiaeth yn ddiweddar, a hithau newydd droi’n 50 oed.
Yn ôl y gantores, mae’r diagnosis yn “rhyddhad mawr”, ac yn esbonio llawer am y problemau iechyd meddwl mae hi wedi eu profi’n flaenorol.
Serch hynny, mae hi’n pryderu bod merched yn llawer iawn mwy tebygol o guddio eu symptomau awtistiaeth na bechgyn, ac mae hi’n annog mwy o bobl i gael eu profi.
Fe gafodd Non brawf ar ôl i’w merch 14 oed, Kitty, gael diagnosis ddwy flynedd yn ôl, ac fe sylweddolodd y gantores ei bod hi’n rhannu nifer o’r un anawsterau â’i merch.
“Esbonio lot o’r rhesymau tu ôl i’r iechyd meddwl."
“Un noson, o’n i’n siarad efo Kitty am rywbeth oedd hi’n ffeindio’n anodd iawn yn yr ysgol,” meddai, “a na’th hi ddweud, ‘Mam, dwi’n meddwl falle dylet ti gael prawf i weld a oes awtistiaeth gyda ti achos ti’n siarad fel dwi’n meddwl.”
Ar ôl derbyn ei diagnosis, fe sylweddolodd Non bod hynny’n “esbonio lot o’r rhesymau tu ôl i’r iechyd meddwl, y teimlad bod fi’n wahanol yn y byd, bod fi’n wrong, wedi torri "
Yn ôl data gan elusen NAS Cymru, mae tystiolaeth yn awgrymu bod menywod awtistig yn fwy tebygol o gael diagnosis yn hwyrach mewn bywyd na dynion – neu beidio cael diagnosis o gwbl.
"Awtistiaeth mewn merched ddim yn tueddu cael ei bigo fyny yn yr ysgol gynradd."
Cadarnhau hynny mae ymchwil diweddar gan Brifysgol Abertawe, sy’n dangos ei bod hi’n cymryd chwe blynedd yn fwy ar gyfartaledd i ferched gael diagnosis awtistiaeth na bechgyn.
Yn ôl Sioned Thomas, sy’n swyddog datblygu awtistiaeth cenedlaethol, “dydy awtistiaeth mewn merched ddim yn tueddu cael ei bigo fyny yn yr ysgol gynradd.”
Mae hi’n awgrymu mai un rheswm am hyn yw bod merched “yn fwy distaw a llai ‘disruptive’,” ac felly nad ydyn nhw’n cael eu hannog i gael prawf.
Meddai Non, “Mae o jyst mor typical bod ni fel merched jyst eisiau plesio, jyst eisiau ffitio mewn, edrych yn normal, bihafio fel pawb arall.
“Ac mae’n rhaid i hynna newid rŵan.”
Mae Non hefyd am i bobl o bob oed a rhywedd wybod nad ydy’r diagnosis yn beth “negatif – mae o’n rhywbeth rili positif.
“ ’Dio ddim yn golygu bod ni wedi torri na bod chi ddim yn gallu gweithio.
“ ’Dan ni yn gallu llwyddo.”