Newyddion S4C

Stadiwm Liberty Gweilch

A allai rhanbarth rygbi’r Gweilch uno gyda chlwb Ealing Trailfinders?

NS4C 06/03/2023

Mae rhanbarth rygbi’r Gweilch yn ystyried uno gyda chlwb Ealing Trailfinders o ail haen rygbi Lloegr, yn ôl adroddiadau yn y wasg.

Yn ôl stori yn y Rugby Paper dros y penwythnos, mae Ealing yn agos at gwblhau gwaith papur ar gyfer cydsoddiad gyda’r rhanbarth sydd yn cynrychioli Abertawe a Chastell-nedd.

Mae Ealing Trailfinders yn glwb proffesiynol o Lundain sydd yn aelod o Bencampwriaeth Lloegr.

Fe enillodd y clwb y gynghrair y tymor diwethaf ac maen nhw ar frig y tabl y tymor hwn, ond mae eu ceisiadau i ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr wedi eu gwrthod sawl tro ar sail diffyg seddi yn eu stadiwm.

Yn ôl adroddiadau, mae bwrdd rheoli'r Bencampwriaeth Rygbi Unedig, sef y gystadleuaeth mae rhanbarthau Cymru yn chwarae ynddo, yn cefnogi cais Ealing i ymuno â’r gynghrair.

Yn ôl y trefniant honedig, mi fyddai rhaid i Ealing arwyddo o leiaf 13 o chwaraewyr y Gweilch.

Daw hyn yn sgil trafodaethau ynglŷn â thoriadau pellgyrhaeddol yng nghyllidebau’r rhanbarthau y  tymor nesaf, gydag adroddiadau y bydd sawl chwaraewr Cymru yn gadael i chwarae mewn gwledydd eraill.

Mae Newyddion S4C wedi holi’r Gweilch ac Ealing Trailfinders am ymateb.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.