Elfyn Evans: 'Angen mwy o gyfleoedd i bobl ifanc fentro fewn i'r byd ralio'

Newyddion S4C
Elfyn Evans

Mae angen gwneud mwy i sicrhau fod digon o gyfleoedd i bobl ifanc fentro i’r byd rasio a ralïo yn ôl y Cymro, Elfyn Evans.

Wrth baratoi at ddechrau Pencampwriaeth Rali'r Byd yn Monte Carlo yr wythnos nesaf dywedodd nad ydi’r Bencampwriaeth Brydeinig yn gwneud “be allen nhw wneud i ddod a phobl yn eu blaenau”.

Mi ddaeth y gŵr o Ddinas Mawddwy yn ail ym mhencampwriaeth y byd y llynedd, am y pumed tro yn ei yrfa, gan golli o drwch blewyn i’r Ffrancwr Sebastian Ogier.

Yn ôl Motorsport UK, sydd yn gyfrifol am y Bencampwriaeth Brydeinig, mae cynllun academi blwyddyn newydd ei lansio er mwyn denu a chefnogi gyrwyr ifanc.

Wrth adlewyrchu ar y tymor diweddaraf, dywedodd Elfyn fod ganddo gymysgedd o deimladau.

“Dio ddim y tro cyntaf inni fod yn y sefyllfa yma, yn brwydro am y bencampwriaeth tan y rownd olaf ond yn anffodus ddim yn gallu cipio’i, felly da ni di arfer efo’r teimlad," meddai.

Image
Elfyn ag Ogier
Daeth Elfyn (ail o'r chwith) a'i gyd yrrwr Scott Martin, yn ail i Sebastian Ogier y tymor diwethaf

“Ond wrth gwrs does 'na ddim amser rhy hir nes bydd y tymor nesaf yn dechrau ac mae reit hawdd mewn ffordd i symud 'mlaen”.

Mae ‘na lai ‘na deufis rhwng y tymor diwethaf yn gorffen a’r un eleni yn dechrau ac yn ôl Evans mae’r paratoadau wedi dechrau hyd yn oed ynghynt.

“Da ni bob tro yn cychwyn rhyw brofion ar y ceir yn yr amodau gaeaf cyn y Nadolig wedyn mewn ffordd da ni ddim wir yn stopio," meddai.

“Ond mae ‘na gyfle dros y Nadolig i droi ffwrdd a gwneud rhywbeth arall ond fel arfer mae 'na ddigonedd o bethau i neud rownd y tŷ sydd heb eu gwneud ers blwyddyn felly allai’m deud dwi di ymlacio!"

'Ddim yn beth hawdd'

Ag yntau wedi bod yn cystadlu ers dros ddegawd fe ddywedodd wrth Newyddion S4C bod yna le i wneud y gamp yn fwy hygyrch ac agored i bobl ifanc, yn enwedig yma yng Nghymru.

“Mae’n gamp enfawr i dorri trwodd”, meddai.

“Dydi fallai’r bencampwriaeth Brydeinig ddim yn gwneud be alle nhw fod, dwi’n teimlo, ar y funud i ddod a phobl yn eu blaenau ac wrth gwrs fel unrhyw fath o motorsport mae 'na o hyd sialensau cost i bobl sydd eisiau cychwyn”.

Image
Elfyn

“Dio ddim yn beth hawdd ond mae 'na gyfleoedd yna, regulations newydd yn dod, ond ar hyn o bryd ychydig iawn o bobl sy’n dod fyny’r ysgol i fod yn y lefel uchaf."

Yn ôl Motorsport UK eu nod ydi sicrhau bod y gamp yn “ddiogel, yn deg ac yn hwyl”.

“I rheini sydd â diddordeb datblygu yn ralio mae’n acadmei ralio newydd sydd wedi ei lansio yn cynnig rhaglen blwyddyn o ddatblygu a chefnogi," meddai Motorsport UK.

Mae’r cynllun yn “cefnogi gyrwyr talentog ifanc o 15 oed”.

Gan baratoi i deithio i Monte Carlo dros y penwythnos mae’n dweud ei fod yn obeithiol am dymor da.

“Dwi o hyd yn trio bod yn hyderus, da ni byth yn gwybod sut mae pethau am droi allan”.

“Dwi jest yn canolbwyntio ar wneud fy ngorau a dyna fo rili”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.