Gofidion ar gopa'r byd: Argraffiadau Gwyn Loader o argyfwng yr Ynys Las
Dros y dyddiau diwethaf, mae tîm rhaglen Newyddion S4C wedi bod yn darlledu’n fyw o'r Ynys Las wrth i Donald Trump barhau i ddweud ei fod yn benderfynol o "oresgyn" y diriogaeth yn yr Arctig.
Dyma argraffiadau ein Prif Ohebydd Gwyn Loader o'r ynys.
Ar strydoedd Nuuk ddydd Iau, mae ambell filwr yn crwydro’r strydoedd.
Yn y maes awyr bychan, roedd haid o filwyr Denmarc yn casglu cyn gwneud eu ffordd i awyren filwrol Hercules ac yn y môr oddi ar yr arfordir, roedd dwy long filwrol i’w gweld yn hwylio.
Mae sawl gwlad wedi cadarnhau eu bod nhw’n anfon milwyr yma - cam sydd wedi ei feirniadu ym Moscow.
Ond er bod hynny yn weladwy heddiw yn Nuuk, niferoedd bach iawn o'u lluoedd y mae gwledydd fel Ffrainc, y Ffindir a’r Almaen wedi eu hanfon yma hyd yn hyn.
Storm wleidyddol
Dan flanced o rew ac eira, â’i chartrefi pren lliwgar yn britho’r bryniau, mae Nuuk yn ddarlun o lonyddwch digynnwrf.
Ers misoedd, mae’r ynys hon wedi bod yng nghanol storm wleidyddol ryngwladol.
Mae bron i flwyddyn bellach ers i Donald Trump ddweud ei fod am “gael” yr Ynys Las – ac yn barod i ddefnyddio grym milwrol i wneud hynny.
Bryd hynny, roedd y syniad yna i weld yn un chwerthinllyd.
Wedi i America gipio arlywydd Venezuela lai na phythefnos nôl mewn cyrch milwrol rhyfeddol, mae’r bygythiad yn llawer mwy byw bellach.
Ar brif stryd prifddinas yr Ynys Las, Nuuk, mae crys-T yn sefyll yn falch tu fas i siop ddillad.
Yn cyhwfan yn yr awel ysgafn, mae print bras yn datgan neges herfeiddiol: “NID YW’R YNYS LAS AR WERTH”.
David Røglids yw dylunydd y crys a pherchennog y siop.
“Yn anffodus, mae hwn wedi bod yn boblogaidd,” meddai wrtha’i.
“Roeddwn i’n gobeithio na fyddai angen y neges erbyn hyn ond mae’r sefyllfa yn parhau.”
'Poeni'n fawr'
Fel nifer o bobl yma, mae David yn gofidio am amcanion y Goliath gwleidyddol, Donald Trump.
“Mae’n fy mhoeni i’n fawr,” meddai. “Mae e’n cymryd ein holl egni mwy neu lai.”
Mae ei bryder yn cael ei ategu dro ar ôl tro ar strydoedd Nuuk.
Ennill annibyniaeth i’r ynys yw nod holl bleidiau gwleidyddol y senedd yma, er bod anghydweld am ba mor gyflym ddylai hynny ddigwydd.
Ar hyn o bryd, mae’n rhan o Ddenmarc, sydd yn gyfrifol am bolisi tramor er bod gan yr ynys ei llywodraeth ei hun.
Mewn pol piniwn yma llynedd, dim ond 6% oedd yn dweud y bydden nhw’n cefnogi gadael Denmarc a dod yn rhan o’r Unol Daleithiau.
Roedd 85% yn gwrthwynebu hynny.
I ategu hynny, fe arwyddodd arweinwyr gwleidyddol y diriogaeth ddatganiad ar y cyd wythnos ddiwethaf yn dweud yn gadarn: “Dy’n ni ddim am fod yn Americanwyr, dy’n ni ddim am fod yn bobl Denmarc, ry’n ni am fod yn bobl yr Ynys Las.”
Mewn cynhadledd i’r wasg yn gynharach yn yr wythnos, dywedodd Prif Weinidog yr ynys, Jens-Frederik Nielsen, petai’n rhaid dewis rhwng Denmarc ac America, byddai pobl yr Ynys Las yn dewis Denmarc a’r Undeb Ewropeaidd.
Ond ydy Donald Trump yn gwrando neu yn poeni?
Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol cyn cyfarfod rhwng cynrychiolwyr Denmarc, yr Ynys Las ac America ddydd Mercher, dywedodd unwaith eto bod “angen” i’r Ynys Las “fod yn nwylo America…mae unrhyw beth heblaw hynny yn annerbyniol.”
Cynhaliwyd y cyfarfod hwnnw tu ôl i ddrysau caeedig. Mewn cynhadledd i’r wasg yn ddiweddarach, dywedodd gweinidog tramor Denmarc, Lars Lokke Rasmussen, bod y trafodaethau wedi bod yn “adeiladol”, ond roedd “anghydweld sylfaenol” o hyd – a does dim cytundeb am y dyfodol.
Yn y cyfamser, mae Denmarc wedi cadarnhau eu bod yn anfon mwy o filwyr i ddiogelu’r diriogaeth hon.
Cadarnhaodd rhai gwledydd Nato eraill fel Ffrainc, yr Almaen a Sweden eu bod nhw hefyd am anfon milwyr yma at yr un diben. Arwydd o’r llwybr anodd mae gwledydd Ewropeaidd yn ei droedio wrth synhwyro bod eu perthynas ag America yn oeri.
Pam fod Trump yn targedu'r Ynys Las?
Mae’r Ynys Las mewn man strategol pwysig yn yr Arctig. Wrth i iâ doddi, mae’n haws hwylio drwy’r moroedd yma. Mae Donald Trump wedi dweud yn gyson bod e’n poeni bod Tsieina a Rwsia yn ceisio ennill grym a dylanwad yma.
Mae hefyd yn dweud ei fod am osod system daflegrau ar yr ynys. Yn ogystal â hynny, mae mwynau prin a gwerthfawr i’w cael yn y tir yma.
Wrth i’r cyfarfod ddechrau yn Washington D.C, rwy’n cwrdd â Per Berthelsen. Yn 75 oed, mae’n aelod o senedd yr Ynys Las. Fe oedd sylfaenydd plaid fwya’r senedd yma. Ond mae hefyd yn enwog fel canwr a gitarydd roc.
Ei fand, Sumé (sy’n golygu ‘ble?’) oedd y cyntaf i ganu caneuon roc yn iaith frodorol yr Ynys Las. Cafwyd gwahoddiad i deithio’r byd gyda Procol Harum, ond roedd eu calonnau ar fod gartef meddai wrtha’i.
Yn gwrando ar riffs gitâr melfedaidd y saithdegau gan edrych dros olygfeydd godidog ar gyrion Nuuk, mae gwrthdaro yn bell o’r meddwl.
Ond i’r gwleidydd 75 oed sydd yn dal i gryfhau ar ôl derbyn triniaeth frys llid yr ymennydd, mae’r bygythiad hwnnw yn pwyso ar y meddwl.
"Mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn artaith feddyliol… oherwydd rhethreg elyniaethus America.”
Er bod yr Ynys Las dros 100 gwaith maint Cymru, dim ond rhyw 57,000 o bobl sydd yn byw yma – rhyw draean o’r rheiny yn y brifddinas.
Ond mae Per Berthelsen yn rhybuddio bod oblygiadau pellgyrhaeddol i'r dadlau am ddyfodol yr ynys.
“Mae bygwth yr Ynys Las yn bygwth y byd gorllewinol i gyd – NATO, dy wlad di, a ni.”
Er bod milwyr Ewropeaidd yn cael eu hanfon i’r Ynys Las, heb gytundeb rhwng y diriogaeth, Denmarc ac America, mae gofid y gallai'r bygythiadau rheiny barhau.