Baban wedi marw yn dilyn argyfwng meddygol yn Sir Gâr

ponthenri.jpg

Mae baban wedi marw yn dilyn argyfwng meddygol mewn eiddo yn Sir Gâr. 

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi derbyn galwad gan y Gwasanaeth Ambiwlans am 08:15 ddydd Mawrth yn adrodd am argyfwng meddygol yn ymwneud â baban yn ardal Ponthenri. 

Bu farw'r baban yn y fan a'r lle. 

Nid oes yna unrhyw ymchwiliadau troseddol yn cael eu cynnal yn ôl yr heddlu. 

Dywedodd yr heddlu fod y crwner wedi cael gwybod.

Ychwanegodd y llu bod eu meddyliau gyda'r teulu yn ystod y cyfnod anodd hwn, ac fe fyddan nhw'n parhau i gael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.