Powys y man cychwyn wrth i Tour De France 2027 ddod i Gymru

Geraint Thomas

Fe fydd cymal o Tour de France 2027 yn cychwyn ym Mhowys a gorffen yng Nghaerdydd, wrth i ran o lwybr y ras gael ei ddatgelu ddydd Iau.

Fe fydd y ras seiclo fwyaf yn y byd yn dod i Gymru am y tro cyntaf ar 4 Gorffennaf 2027, ar gyfer trydydd cymal y ras.

Bydd y cymal cyntaf - sef y Grand Depart - yn cael ei chynnal yn Yr Alban, gyda'r ail gymal yn teithio drwy Loegr.

Y Trallwng fydd y lleoliad ar gyfer dechrau'r trydydd cymal, gyda'r ras yn ymlwybro tuag at Fannau Brycheiniog, drwy Ddyffryn Rhondda a Chaerffili, cyn cyrraedd diweddglo'r cymal bryniog yn y brifddinas.

Dyma’r digwyddiad chwaraeon am ddim mwyaf erioed i gael ei gynnal yn y DU.

Image
Map TDF
Llwybr Cymal 3 o Tour de France 2027

I nodi'r achlysur, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fod enillydd y ras yn 2018, Geraint Thomas OBE, wedi'i benodi fel Llysgennad Beicio Cymru.

Nod Thomas fyddai hyrwyddo Cymru fel cyrchfan seiclo fyd-eang, ag yntau’n awyddus i’r byd “gweld hynny.”

Dywedodd Geraint Thomas: "Mae'r Tour yn dod i Gymru yn enfawr – mae'r ffyrdd, y dringfeydd hyn a'r cefnogwyr hyn wedi'u gwneud ar gyfer beicio, a nawr mae'r byd yn cael gweld hynny.

“Alla i ddim aros i chwarae fy rhan yn croesawu'r Daith, ysbrydoli beicwyr hen ac ifanc, a helpu i wneud hyn yn foment na fydd Cymru byth yn ei anghofio."

'Cyfle amhrisiadwy'

Wrth gyhoeddi’r newyddion ddydd Iau dywedodd Prif Weinidog Cymru: "Mae cynnal y Tour De France yn gwireddu breuddwyd i gefnogwyr beicio Cymru, a phwy well i gymryd y rôl fel ein Llysgennad swyddogol na'r beiciwr gorau erioed yng Nghymru, Geraint Thomas?

"Nid yn unig y bydd y Tour yn dod i Gymru yn brofiad cyffrous i gefnogwyr beicio ledled y byd, mae'n gyfle amhrisiadwy i ddangos golygfeydd syfrdanol Cymru a'r llwybrau beicio rhagorol i gynulleidfa fyd-eang." 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio Llywodraeth Cymru ei bod yn hyderus y byddai’r digwyddiad yn arwain at fuddion hirdymor yn y wlad. 

"Mae cynnal y Tour de France am y tro cyntaf yn foment hanesyddol i Gymru, ac yn gyfle aruthrol i'n heconomi,” medd Rebecca Evans. 

“Rydym yn benderfynol o wneud y mwyaf o fanteision parhaol y digwyddiad hwn i gymunedau a busnesau ledled Cymru."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.