Côr Ysgol y Strade yn fuddugol mewn cystadleuaeth ym Manceinion
Mae Ysgol y Strade wedi ennill cystadleuaeth côr ym Manceinion.
Ers 2019 maen nhw wedi cystadlu yng Nghystadleuaeth Corau Amatur Manceinion, ac eleni, yr ysgol uwchradd o Lanelli oedd y côr buddugol.
Roedd 15 o gorau yn cystadlu, a'r Strade oedd yr unig ysgol a chôr o Gymru yn eu plith.
Pan gafodd y canlyniad ei gyhoeddi, roedd y plant wedi cyffroi'n fawr.
"O'dd pawb wedi dechre sgrechen," meddai Matilda sydd ym Mlwyddyn 7.
"O'dd pawb yn crio, sgrechen, chwerthin."
Dywedodd Ioan sydd hefyd yn ddisgybl blwyddyn 7 bod ennill yn ei flwyddyn gyntaf gyda'r côr yn wych.
"Hwn o'dd y trip gyntaf gyda'r côr, fel go iawn, a ni 'di ennill so 'odd jyst llawer o cyffro."
Creu ffrindiau
Dros y misoedd diwethaf mae'r côr wedi bod yn gweithio'n galed yn ymarfer ar gyfer y gystadleuaeth.
I rai disgyblion, mae canu yn y côr wedi eu helpu i greu ffrindiau.
"Mae wedi bod yn neis cael cwrdd pobl newydd oni ddim yn gwybod cyn y trip," meddai Matilda.
Ychwanegodd Seren fod "y côr fel teulu bach."
Mae'r côr hefyd yn paratoi ar gyfer Eisteddfod yr Urdd a thaith i Disneyland Paris.
Dywedodd Matlida: "Mae Mr Davies wedi dechre plano trip i Paris, a gobitho gewni canu ar lwyfan Disney."
"Ni gyd wedi cwrdd yn ysgol uwchradd, so ni 'di cal chance i fynd ar gwylie gyda'n gilydd," medd Steffan.
"Pan ni'n mynd i Ffrainc bydd e fel sioc rili, enwedig i fi achos bod fi heb fod tramor ers ages."