Ci lles cyntaf yn ymuno gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Mae Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi croesawu aelod newydd i'w tîm, sef ci therapi lles a thrawma cyntaf y gwasanaeth.
Mae Dill, sydd yn 10 oed, wedi cyflawni'r holl feini prawf i ddod yn gi therapi lles a thrawma i'r Ymddiriedolaeth yn ôl Katie McPheat-Collins, Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer y Gwasanaethau Meddygol Brys ar draws Canolbarth Cymru.
Dywedodd Katie: “Am y chwe blynedd diwethaf, mae Dill wedi bod, ac yn dal i fod, yn gi chwilio ac achub gweithredol gyda SARDA De Cymru, ac mae’n aelod o Dîm Achub Mynydd y Bannau Canolog.
“Fodd bynnag, arweiniodd ei natur hynod dyner, tawel a’i pherthynas â phobl at yr asesiad diweddar a’r rôl ddilynol o fewn yr Ymddiriedolaeth.”
Mae integreiddio Dill yn rhan o raglen waith ehangach i wella iechyd a lles staff a gwirfoddolwyr y gwasanaeth.
Ychwanegodd Katie: “Ar hyn o bryd mae gennym gŵn heddlu sy’n gysylltiedig â chynllun OK9, sy’n ymweld â gorsafoedd a safleoedd ar draws De a Gogledd Cymru, ond roedd bwlch ledled y rhanbarth Canolog.
“Gall cefnogaeth Dill fod ar ffurf ymweliadau â gorsafoedd i helpu gyda morâl a straen, presenoldeb yn ystod ôl-drafodaeth, neu ymgysylltiad cymunedol yn enwedig wrth gysylltu â chynulleidfaoedd ifanc, oedrannus neu fregus.”
Dywedodd Rhingyll Garry Botterill, Arweinydd Prosiect Cŵn Cymorth Lles a Thrawma gyda Gwasanaeth Cenedlaethol Lles yr Heddlu: “Mae’r cynllun OK9 wedi profi i fod yn hynod boblogaidd o fewn yr Heddlu a’r Gwasanaeth Tân, ac mae nifer y Cŵn Cymorth Lles a Thrawma wedi cynyddu i dros 175 yn y 18 mis diweddaf.
“Rydym yn falch iawn o groesawu Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i’r cynllun, fel y gallant fwynhau manteision niferus y fenter hon.
“Mae pob gwasanaeth brys yn delio â digwyddiadau trawmatig a sefyllfaoedd llawn straen.
“Mae’r Cŵn Lles yn helpu i ddod â rhywfaint o ryddhad ysgafn i gydweithwyr, yn enwedig yn dilyn digwyddiadau anodd."
“Rydym wedi canfod eu bod yn helpu pobl i siarad yn fwy agored, a chan fod y triniwr yn gydweithiwr sydd wedi’i hyfforddi... maen nhw’n gwrando’n effeithiol ac yn gallu cyfeirio at y cymorth priodol os oes angen."