Rhybudd melyn am eira i'r rhan fwyaf o Gymru ddiwedd yr wythnos

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi ymestyn ei rhybudd melyn am eira i rannau helaeth o Gymru yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Mae'r Swyddfa yn darogan y bydd yr eira yn effeithio ar siroedd y de a'r de orllewin i ddechrau o 00:00 nos Fawrth, hyd at 09:00 fore dydd Iau - ac yna i'r rhan fwyaf o Gymru dydd Iau.
Fe allai achosi ychydig o drafferthion ar y ffyrdd ac mewn cymunedau gwledig.
Y siroedd lle gallai eira ddisgyn dros nos Fawrth ac yn ystod dydd Mercher yw:
- Blaenau Gwent
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Caerffili
- Caerdydd
- Sir Gâr
- Ceredigion
- Merthyr Tudful
- Sir Fynwy
- Castell-nedd Port Talbot
- Casnewydd
- Sir Benfro
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Abertawe
- Torfaen
- Bro Morgannwg
Mae rhybudd melyn hefyd ar gyfer eira mewn grym rhwng 03:00 fore Iau a 18:00 nos Wener yn y gogledd a'r canolbarth, yn benodol yn y siroedd canlynol:
- Ceredigion
- Conwy
- Sir Ddinbych
- Sir Y Fflint
- Gwynedd
- Ynys Môn
- Powys
- Wrecsam
Prif lun: PA