Merch o Wcráin wedi marw ar ôl cael ei darganfod yn anymwybodol ar draeth yn Nyfnaint

Mae heddlu'n cynnal ymchwiliad wedi i ferch 14 oed, yn wreiddiol o Wcráin, gael ei darganfod yn farw ar draeth yn Nyfnaint.
Cafodd swyddogion eu galw yn dilyn adroddiadau bod merch wedi diflannu yn ardal Dawlish yn y sir ddydd Sadwrn.
Bu'r heddlu a gwylwyr y glannau yn chwilio amdani, a chafodd ei darganfod yn anymwybodol ar draeth Dawlish.
Cafodd ei chludo i'r ysbyty, lle bu farw yn ddiweddarach.
Dywedodd Prif Arolygydd Heddlu Dyfnaint a Chernyw, Becky Williams: "Roedd y ferch a fu farw yn wreiddiol o Wcráin a oedd yn byw yn ardal Dawlish.
"Mae'r llu wedi cysylltu â Llysgenhadaeth Wcráin ac mae'r Swyddfa Gartref hefyd yn ymwybodol o'r achos.
"Ar hyn o bryd mae'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un heb esboniad ac mae ymchwiliad yn parhau i'r union amgylchiadau."