Byddai Boris Johnson yn urddo’i dad yn beth ‘digywilydd tu hwnt’ medd Kier Starmer

Byddai gweld Boris Johnson yn urddo’i dad Stanley Johnson yn Farchog yn beth ‘digywilydd tu hwnt’, yn ôl arweinydd y blaid Llafur, Syr Kier Starmer.
Mae adroddiad ym mhapur newydd The Times yn awgrymu bod y cyn prif weinidog wedi cynnwys ei dad ymysg oddeutu 100 o enwau sydd wedi eu hawgrymu ar gyfer anrhydedd, fel rhan o’i restr anrhydeddau ymddiswyddo.
Dywedodd Syr Kier Starmer: “Mae’r syniad o gyn-brif weinidog yn anrhydeddu ei dad – am ei wasanaethau - i beth? Mae’r syniad o Boris Johnson yn urddo’i dad fel marchog – mae’r frawddeg yna yn wirion bost.
“Mae’n nodweddiadol o ddyn fel Johnson. Mi fydd y cyhoedd yn meddwl fod o’n beth gwbl gywilyddus.”
Dywedodd gweinidog y cabinet Michelle Donelan mai “adroddiadau yn unig” oedd y rhai oedd yn awgrymu y byddai Johnson yn anrhydeddu ei dad, gan bwysleisio bod ganddo'r hawl i anrhydeddu pwy bynnag y mynnai.