Newyddion S4C

Mali Elwy

Mali Elwy yn cipio Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel

NS4C 05/03/2023

Y perfformiwr theatrig Mali Elwy o Adran Bro Aled yw enillydd Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel eleni.

Hi oedd yn fuddugol o’r chwe chystadleuydd ifanc oedd wedi camu ar lwyfan Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth gyda’r nod o gipio’r wobr.

Dyma’r tro cyntaf i’r gystadleuaeth gael ei chynnal ers 2019 ar ôl cael ei gohirio o ganlyniad i’r pandemig.

Yn ogystal â chipio’r teitl Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel, cyflwynir ysgoloriaeth o £4,000 i Mali Elwy fel gwobr am ennill y gystadleuaeth.

Sioned Terry, Gwennan Gibbard, Barri Gwilliam, Bethan Williams–Jones a Huw Garmon gafodd y dasg anodd o feirniadu’r gystadleuaeth, ac roedd canmoliaeth uchel i holl gystadleuwyr y noson.

Dywedodd Gwenno Davies, Cadeirydd Bwrdd Eisteddfod yr Urdd: “Roedd y beirniaid i gyd yn cytuno fod hon yn gystadleuaeth agos iawn wrth i bob un serennu yn eu maes ar y llwyfan heno. 

“Yn ddi-os, mae dyfodol disglair o flaen pob un yn eu maes ac edrychwn ymlaen at ddilyn eu llwyddiannau i gyd, bob un.

“Ond heno, roedd un perfformiad wnaeth wirioneddol gydio a chyffwrdd ym mhob un o’r beirniaid. 

“Ar ran yr Urdd a’r panel beirniadu, hoffwn longyfarch Mali Elwy ar ennill Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel 2022.”

Bydd rhaglen uchafbwyntiau Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel yn cael ei ddarlledu Nos Sul, 12 Fawrth am 8yh ar S4C.

Dosbarthiadau

Dewiswyd y cystadleuwyr gan banel o feirniaid yn seiliedig ar eu llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022.

Y chwech a aeth ben ben am yr ysgoloriaeth oedd:

  • Fflur Davies (Cylch Arfon)
  • Gwenno Morgan (Aelwyd Llundain)
  • Ioan Williams (Adran Bro Taf)
  • Mali Elwy (Adran Bro Aled)
  • Owain Rowlands (Aelod Unigol Blaenau Tywi)
  • Rhydian Tiddy (Cylch Blaenau Tywi).
Image
Fflur Davies
Fflur Davies
Image
Rhydian Tiddy
Rhydian Tiddy
Image
Owain Rowlands
Owain Rowlands
Image
Ioan Williams
Ioan Williams
Image
Gwenno Morgan
Gwenno Morgan

Ym mis Ionawr fel rhan o’r paratoadau ar gyfer y gystadleuaeth, trefnodd yr Urdd ddosbarthiadau meistr unigol a phenodi mentor i’r chwe chystadleuydd.

Seren y West End Steffan Harri fu’n cynnal dosbarth meistr Fflur Davies, y pianydd talentog Iwan Llywelyn Jones fu’n helpu Gwenno Morgan, a’r dawnsiwr Osian Meilir fu’n cydweithio efo Ioan Williams.

Yr actor Ffion Dafis fu’n rhannu ei phrofiad â Mali Elwy, meistr y trombôn Dafydd Thomas fu’n helpu’r cerddor Rhydian Tiddy, a rhannodd Rhian Lois cyn-enillydd y gystadleuaeth yn 2008, ei chyngor hefo Owain Rowlands.

Yn ogystal, derbyniodd y chwech sesiynau ymarfer gyda Stifyn Parri a’r Gyfarwyddwraig Angharad Lee i baratoi ar gyfer y gystadleuaeth.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.