Newyddion S4C

Sbwriel Afon Teifi

Cwmni canŵio yn tynnu 10 tunnell o sbwriel o afon yng Nghymru

Mae cwmni canŵio wedi tynnu 10 tunnell o sbwriel o afon yng Nghymru.

Dywedodd Llandysul Paddlers eu bod nhw wedi clirio’r sbwriel o 3km yn unig o Afon Teifi a bod llawer mwy yno.

Maen nhw wedi bod yn casglu’r sbwriel ar ddarn o’r afon sy’n rhedeg rhwng Llandysul yng Ngheredigion a Phont-tyweli ar ochor Sir Gaerfyrddin o’r afon.

Dywedodd y trefnwyr nad oedd ganddyn nhw “y geiriau” i ddisgrifio eu syndod wrth weld faint o sbwriel oedd wedi dod o’r afon.

Roedd hynny’n cynnwys llawer iawn o ddeunydd rhwymo silwair, medden nhw, a’u bod nhw wedi gyrru’n manylion draw at Gyfoeth Naturiol Cymru.

Image
Sbwriel Afon Teifi
Image
Sbwriel Afon Teifi

“Yr unig ffordd i ddisgrifio’r peth yw fel trychineb amgylcheddol,” medden nhw.

“Roedden ni’n barod i ddod o hyd i sbwriel, ond mae faint ydan ni wedi dod o hyd iddo yn ofnadwy o drist.”

Mae’r clwb wedi bod yn cwrdd i gasglu’r sbwriel bob ddydd Sadwrn, gyda degau o wirfoddolwyr ar y dŵr ac yn cerdded wrth yr afon.

Yr wythnosau diwethaf roedd 30 o bobol ar yr afon ac 20 arall yn cerdded ar hyd y glannau yn clirio sbwriel.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.