
Parafeddygon ‘wedi cael digon’ wrth i gleifion farw yng nghefn ambiwlansys
Parafeddygon ‘wedi cael digon’ wrth i gleifion farw yng nghefn ambiwlansys

Mae parafeddygon wedi dweud eu bod nhw “wedi cael digon” ar ôl iddyn nhw rannu bod cleifion yn marw yng nghefn ambiwlansys oherwydd yr oedi am welyau mewn ysbytai.
Dros y misoedd diwethaf mae miloedd o weithwyr y Gwasanaeth Ambiwlans ar draws Cymru wedi bod ar streic dros dâl a phrinder staff. Dechreuodd y streicio ddiwedd Rhagfyr y llynedd, sef y streic genedlaethol gyntaf gan y Gwasanaeth Ambiwlans ers dros 30 mlynedd.
Fe wnaeth Michelle Evans ymuno gyda’r gwasanaeth yn 2017, ac mae wedi bod yn barafeddyg am 8 mis. Yn siarad â rhaglen Y Byd ar Bedwar, mae hi’n teimlo fel bod y gwasanaeth yn “gadael cleifion i lawr”.
“Dwi’n dod mewn i shifft ac mae morâl mor wael ar y foment. Fi’n credu bod pawb wedi cael digon, ac mae lot o bobl yn meddwl am adael," meddai.
“Ni wedi seinio lan i fod yn barafeddygon i fynd mas i’r gymuned i helpu pobl, ond ar y foment ni methu neud hwnna, ni methu defnyddio sgiliau sydd gyda ni i helpu pobl achos bod ni’n styc tu fas i’r ysbyty.
“Ambell waith ni'n cyrraedd 'na yn rhy hwyr ac maen nhw wedi marw yn aros achos yr oedi yn yr amser ymateb.”

Fis Ionawr, ar draws Cymru fe gollodd y gwasanaeth ambiwlans fwy na 23,000 o oriau yn ciwio y tu allan i ysbytai.
Yn ôl Michelle, sydd wedi bod gyda’r gwasanaeth am chwe blynedd, pan ddechreuodd hi byddai hi’n gwneud rhwng chwech ac wyth galwad mewn deuddeg awr.
Nawr, mae’n treulio rhan fwyaf o’i amser gyda’r un claf, yn aros gyda nhw y tu allan i’r ysbyty.
Sonia Thompson yw Cyfarwyddwr Gweithrediadau Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Mae hi’n dweud bod y gwasanaeth yn chwarae eu rhan wrth geisio gwella’r sefyllfa.
“Da ni wedi cael lot fwy o staff yn y ddwy flynedd ddiwetha' i ateb dros y ffôn, felly mae gennym ni mwy o barafeddygon a nyrsys sydd yn gallu trin dros y ffôn fel nad ydy hi'n angenrheidiol fod cleifion yn gorfod mynd i’r ysbytai," meddai.
'Ddim yn hapus'
Pan wnaeth Y Byd ar Bedwar ofyn i Sonia am ei hymateb i staff yn gadael y gwasanaeth, dywedodd fod "hwnna’n dod a siom i ni fel gwasanaeth bod staff ni ddim yn hapus yn eu gwaith nhw ar hyn o bryd”.
“Dwi di gweithio yn y gwasanaeth dros gyfnod o amser a dwi erioed wedi gweld y pwysau mor mor anodd ag y mae o ar hyn o bryd.
"Mae rhaid i ni weithio’n galed efo staff [fel eu] bod nhw’n teimlo bod nhw’n gweld y newidiadau da ni’n trio neud, da ni’n buddsoddi yn yr uwch barafeddygon, y parafeddygon gofal lliniarol.
"Da ni efo’r parafeddygon rhagnodi cynta’ yn y wlad felly mae 'na lot o bethau sy’n bositif yn y gwasanaeth ac mae 'na ddyletswydd arnom ni i neud yn siŵr bod ein staff ni yn gweld hynna hefyd.”
Fis Chwefror, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gynnig codiad cyflog o 3% ar gyfer y flwyddyn yma, gydag 1.5% o fonws untro. Roedd hynny ar ben codiad o 4.5% yn yr hydref. Ond fe wrthododd yr undebau y cynnig gan ddweud ei fod yn rhy isel i’w haelodau.

Gohirio streic
Mae streic gan staff Gwasanaethau Ambiwlans Cymru oedd i fod i gael ei chynnal ddydd Llun 6 Mawrth wedi cael ei gohirio. Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd undebau GMB ac Unite fod "datblygiadau sylweddol" wedi bod yn eu trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn gweithio’n galed i wella gofal brys ac argyfyngus. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi £25m y flwyddyn i gynyddu staffio a thrin pobl yn nes at eu cartrefi pan fydd angen gofal brys arnynt.
“Mae 100 o staff ambiwlans newydd wedi ymuno â’r gwasanaeth fel rhan o gynlluniau i wella amseroedd ymateb a rhyddhau mwy o amser i staff ymateb i alwadau.
“Fel rhan o’n gwaith gyda’r Gwasanaeth Iechyd ac awdurdodau lleol i wella llif cleifion drwy ysbytai, rydym wedi sicrhau mwy na 650 o welyau cymunedol a phecynnau gofal ychwanegol ac rydym yn gweithio i ddarparu hyd yn oed mwy.”
Y Byd ar Bedwar nos Lun, 6 Mawrth, 20:00 ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.