Newyddion S4C

Cau ffordd yn dilyn digwyddiad yn Rhondda Cynon Taf

05/03/2023
Mynydd y Rhigos

Mae Heddlu De Cymru wedi cau ffordd yr A4061 dros fynydd y Rhigos o Hirwaun i Dreherbert yn Rhondda Cynon Taf yn dilyn digwyddiad.

Mae’r ffordd wedi cau yn y ddau gyfeiriad.

Dywedodd y llu fod disgwyl i’r ffordd fod ar gau am rai oriau ac yn cynghori teithwyr i osgoi'r ardal.

Dywedodd yr heddlu fod y digwyddiad yn ymwneud ag un cerbyd aeth oddi ar y ffordd a throsglwyddwyd y gyrrwr i ysbyty Athrofaol Cymry yng Nghaerdydd yn dioddef o anafiadau.

Mae’r ffordd yn boblogaidd iawn ar benwythnosau gan feicwyr modur a seiclwyr.

Llun: Google
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.