Bŵm sonic yn ysgwyd canolbarth Lloegr

Mae canolbarth Lloegr wedi ei ysgwyd gan fŵm sonic o awyren.
Y gred yw bod y sŵn ffrwydro wedi dod o awyren filwrol wrth dorri cyflymder sŵn.
Clywyd y sŵn aflafar yn Swydd Gaerlŷr, Swydd Northampton a phobl yn Banbury a Rhydychen.
Dywedodd heddlu Swydd Gaerlŷr eu bod nhw wedi derbyn “nifer uchel o alwadau”.
“Hoffwn ni dawelu meddwl y cyhoedd nad oes unrhyw reswm dros boeni ond ry’n ni’n deall i bawb sydd wedi ymateb,” meddai.
Rhannodd nifer o bobl yr eiliad y clywyd y sŵn ar y cyfryngau cymdeithasol.
Scary #sonicboom #Northamptonshire @ChronandEcho @SkyNews @DxGusher pic.twitter.com/TJRSFYcLaZ
— Linda Steele (@lindasteele1958) March 4, 2023
Mae bŵm sonic yn digwydd pan mae awyren yn teithio dros 761 milltir yr awr, sef cyflymder sŵn.
Gall awyren sy’n teithio dros 20,000 troedfedd greu bŵm sonic sydd 230 milltir ar draws.
Llun: Awyren milwrol gan Realbigtaco (CC BY-SA 3.0).