Newyddion S4C

Bryn Terfel

Pwy fydd yn ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2023?

NS4C 05/03/2023

Ddydd Sul bydd chwe chystadleuydd ifanc yn camu ar lwyfan Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth gyda’r nod o gipio Ysgoloriaeth Bryn Terfel.

O Mirain Haf i Rhys Taylor, Rhian Lois i Rhydian Jenkins, mae Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel wedi rhoi hwb i sawl gyfra disglair.

Bydd y gystadleuaeth yn dychwelyd am y tro cyntaf ers 2019 ar ôl cael ei gohirio o ganlyniad i’r pandemig.

Bydd chwe thalent ifanc yn cystadlu am ysgoloriaeth o £4,000 a fydd yn cael ei chynnal am 6pm yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.

Dywedodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau eu bod nhw’n “hynod o gyffrous” i groesawu’r gystadleuaeth yn ôl.

“Mae’r cystadleuwyr i gyd wedi gweithio’n galed wrth baratoi, ac eisoes wedi elwa o’r profiad drwy gymryd rhan mewn gweithdai meistr gydag arbenigwyr profiadol o fewn eu maes,” meddai.

“Hoffwn ddiolch i’r holl bobl sydd wedi cefnogi’r Urdd i gynnig y profiadau gorau posib i’r chwe cystadleuydd dros yr wythnosau diwethaf. 

“Mae Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel yn gyfle anhygoel i bob un sy’n cystadlu, ac yn blatfform arbennig i’r talentau ifanc hyn.

“Ar ran yr Urdd dymunaf y gorau i bawb sy’n cystadlu – yn bwysicach na dim, mwyhewch y profiad!”

Y cystadleuwyr a’r beirniaid

Dewiswyd y cystadleuwyr gan banel o feirniaid yn seiliedig ar eu llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022.

Y chwech fydd yn mynd ben ben am yr ysgoloriaeth yw:

  • Fflur Davies (Cylch Arfon)
  • Gwenno Morgan (Aelwyd Llundain)
  • Ioan Williams (Adran Bro Taf)
  • Mali Elwy (Adran Bro Aled)
  • Owain Rowlands (Aelod Unigol Blaenau Tywi)
  • Rhydian Tiddy (Cylch Blaenau Tywi).
Image
Ysgyloriaeth Bryn Terfel 2023

Fel rhan o’r paratoadau ar gyfer y gystadleuaeth, trefnodd yr Urdd ddosbarthiadau meistr unigol a phenodi mentor i’r chwe cystadleuydd.

Seren y West End Steffan Harri fu’n cynnal dosbarth meistr Fflur Davies, y pianydd talentog Iwan Llywelyn Jones fu’n helpu Gwenno Morgan, a’r dawnsiwr Osian Meilir fu’n cydweithio efo Ioan Williams.

Yr actor Ffion Dafis fu’n rhannu ei phrofiad â Mali Elwy, meistr y trombôn Dafydd Thomas fu’n helpu’r cerddor Rhydian Tiddy, a rhannodd Rhian Lois cyn-enillydd y gystadleuaeth yn 2008, ei chyngor hefo Owain Rowlands.

Yn ogystal, mae’r chwech wedi derbyn sesiynau ymarfer gyda Stifyn Parri a’r Gyfarwyddwraig Angharad Lee i baratoi ar gyfer y gystadleuaeth.

Wedi’r holl baratoi ac edrych ymlaen, mae’r noson fawr bron a chyrraedd. Y panel beirniadu fydd Sioned Terry, Gwennan Gibbard, Barri Gwilliam, Bethan Williams–Jones a Huw Garmon.

Bydd rhaglen uchafbwyntiau Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel yn cael ei ddarlledu Nos Sul, 12 Fawrth am 8yh ar S4C.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.