Newyddion S4C

Paul Mason

Cyn-newyddiadurwr ‘sy’n byw yn Sir Benfro am dri mis bob blwyddyn’ eisiau sefyll yno

NS4C 04/03/2023

Mae’r cyn-newyddiadurwr Paul Mason wedi dweud ei fod am fod yn ymgeisydd seneddol yn Sir Benfro yn yr etholiad nesaf, gan ychwanegu ei fod yn “byw yno am dri mis bob blwyddyn”.

Dywedodd cyn-olygydd cyllid Newsnight a diwylliant a digidol Channel 4 News ei fod eisiau sefyll yn sedd newydd Canol a De Sir Benfro.

Mae’n un o 32 o seddi newydd a fydd yn cael eu creu gan adolygiad o ffiniau etholaethau Cymru ar gyfer yr etholiad cyffredinol a fydd yn digwydd o fewn y dwy flynedd nesaf.

Dywedodd Paul Mason ei fod yn gobeithio sefyll fel ymgeisydd dros y Blaid Lafur yn y sedd.

Dwi’n sefyll yng Nghanol a De Sir Benfro am fy mod yn credu y gallaf wneud gwahaniaeth yma,” meddai.

“Byddaf yn defnyddio fy mhroffil uchel a sgiliau ymgyrchu i adeiladu’r glymblaid eang o bleidleiswyr sydd eu hangen i gymryd y sedd o’r Torïaid, ac i gynrychioli gofynion unigryw pobl De Orllewin Cymru.

“Mae fy nghysylltiadau gyda Sir Benfro yn mynd yn ôl i’r 1990au: dwi’n caru’r lle a’r bobl.

“Dwi’n byw yn Llundain ond ers mynd yn newyddiadurwr annibynnol yn 2016 - heblaw am y cyfnod clo - dwi wedi byw a gweithio yma tua thri mis y flwyddyn.

“Os caf fy newis, byddaf yn ymgartrefu yma ac yn dechrau ymgyrchu.”

'Clod'

Denodd ei ddatganiad ymateb cymysg ar-lein, gyda gwefan Guido Fawkes yn nodi ei fod wedi methu yn ei ymgais i sefyll yn etholaeth Canol Sheffield ym mis Tachwedd.

Ond dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, fod Paul Mason yn “haeddu clod” am ddweud ei fod am fynd i’r afael gyda phroblemau y gwasanaeth iechyd.

“Mae gweinidogion Llafur yn y Senedd yn smalio fod y Gwasanaeth Iechyd yn gweithio’n iawn,” meddai.

“Ond mae Paul yn derbyn nad yw hynny’n wir.”

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.