Mwy o bobl ifanc yn defnyddio cyffuriau i ‘ddianc’ rhag eu problemau

Mae ffigyrau diweddar yn awgrymu bod y nifer o bobl ifanc sy’n cymryd cyffuriau er mwyn dianc rhag eu problemau bron wedi dyblu dros y flwyddyn ddiwethaf.
Un o rheiny sy’n dibynnu ar ganabis er mwyn ymdopi a’i broblemau iechyd meddwl yw dyn 24 oed o’r Rhondda. Mewn cyfweliad gydag ITV Cymru, dywedodd y dyn oedd ddim am gael ei enwi, ei fod wedi bod yn defnyddio cyffuriau am bron i 10 mlynedd.
“Dwi wedi bod yn defnyddio weed i ymdopi gyda fy nheimladau yn rheolaidd ers bod yn 16," meddai.
“Mae gen i bipolar a mae ysmygu canabis yn teimlo fel yr unig escape dwi’n cael o fy nheimladau a meddyliau.”
Mae ymchwil gan yr elusen pobl ifanc, The Mix, yn dangos bod tua 274,000 o bobl ifanc rhwng 16 a 24 wedi defnyddio cyffuriau yn rheolaidd yn y DU yn y flwyddyn ddiwethaf.
Yn ôl yr astudiaeth, roedd un ym mhob pump wedi nodi eu bod yn cymryd cyffuriau er mwyn dianc rhag eu problemau. Mae'r ffigwr yma bron wedi dyblu ers 2021, gyda dim ond ychydig dros 10% o bobl ifanc yn nodi eu bod yn defnyddio cyffuriau fel dihangfa o’u problemau nôl yn 2021.
'Yr unig ffordd allan'
Roedd camddefnydd canabis yn gyfrifol am 10.4% o holl atgyfeiriadau at wasanaethau cyffuriau ac alcohol yng Nghymru llynedd. Mae cannabis hefyd wedi’i nodi fel y trydydd sylwedd fwyaf problematig yng Nghymru, ar ôl alcohol a heroin.
“Gyda bipolar, mae'n frwydr gyson gydag uchafbwyntiau eithafol ac isafbwyntiau eithafol. Dwi'n defnyddio canabis i helpu ymlacio fi ar ddyddiau manig, a ‘uppers’ ar ddyddiau isel,” meddai'r dyn.
“Dwi'n teimlo mai dyma'r unig ffordd alla i ymdopi ar adegau.”
Eglurodd llefarydd ar ran Adfeiriad, elusen sy'n darparu gwasanaethau i bobl â chyflyrau iechyd meddwl â dibyniaeth i gyffuriau, pam fod rhai pobl ifanc yn troi at ganabis i ymdopi.
“Mae pobl ifanc yn defnyddio canabis am nifer o resymau. Un o'r prif resymau yw bod pobl ifanc yn credu bod defnyddio'r sylwedd yn helpu gyda straen ac emosiynau felly bydd yn parhau i'w ddefnyddio, yn hytrach na deall ei fod yn cuddio teimladau o bryder.
“Mae canabis yn hygyrch iawn i bobl ifanc ac mewn rhai achosion, yn fwy nag alcohol.”
'Cysylltiad'
Mae ymchwil Llywodraeth Cymru'n datgelu mai Rhondda Cynon Taf sydd â’r cyfraddau uchaf o ddefnydd canabis yng Nghymru, ar ôl Gwent.
Eglurodd y llefarydd ar ran Adfeiriad Recovery bod “lefelau uwch o ddiberfeddu cymdeithasol a thlodi yn RCT a'r ardaloedd cyfagos” sydd yn gyfrifol am y nifer uwch o ddefnyddwyr canabis yn yr ardal yn cymharu a weddill y wlad".
“Mae cysylltiad hysbys rhwng defnyddio sylweddau a thlodi,” meddai.