Dioddefwraig â diffyg ffydd yn yr heddlu wedi achos o dreisio

Dioddefwraig â diffyg ffydd yn yr heddlu wedi achos o dreisio

ITV Cymru

Bydd un o bob pedair menyw yn profi ymosodiad rhyw yn ei bywyd – ond dydy nifer ddim yn adrodd y troseddau hyn i’r heddlu.

Mae un menyw gafodd ei threisio pan yn 19 oed wedi rhannu ei phrofiad am y tro cyntaf gyda rhaglen materion cyfoes ‘Y Byd ar Bedwar’. 

“Roeddwn i’n meddwl mai fy mai i oedd e,” meddai.

“Roeddwn i wedi mynd allan efo criw o ffrindiau, a ‘naethon ni orffen yn mynd i gysgu yn tŷ un o fy ffrindiau.”

“Dw i’n cofio deffro gyda’r hogyn ar ben fi… finnau’n dweud ‘na’ mwy nag unwaith.”

“Dydw i methu cofio unrhyw beth arall. Codais i’r bore wedyn, wedi drysu, yn ansicr a oedd y peth wedi digwydd. A oeddwn i wedi ei freuddwydio?” 

'Proses erchyll'

Mae’r fenyw, sydd yn dymuno peidio cael ei henwi, yn dweud nad aeth hi byth at yr heddlu am iddi ofni na fydden nhw’n ei chredu ac y byddai rhaid iddi ail-fyw’r ymosodiad.

“Doeddwn i ddim, a ‘dw i dal hyd heddiw, ddim yn teimlo y byddai hynny wedi helpu mewn unrhyw ffordd.

“Roeddwn i’n teimlo fel, ‘mae’n fy ngair i yn erbyn ei air o.’

“Ac mae’n broses erchyll i fynd drwyddi - mynd trwy’r ymosodiad eto, pawb yn gwybod pob dim, ac yn y pendraw bod yna siawns uchel na fyddai unrhyw beth yn digwydd iddo fo.”

Mae hi wedi penderfynu rhannu ei stori yn dilyn marwolaeth Sarah Everard. 

Cafodd y sgwrs genedlaethol am drais yn erbyn menywod ei thanio ar ôl i Ms Everard, oedd yn 33 mlwydd oed, ddiflannu tra’n cerdded adref o dŷ ffrind ger Clapham Common yn ne Llundain.

“Roeddwn i wedi bocsio pob dim ‘naeth ddigwydd, ddim wedi siarad amdano fo.  Naeth pob dim ddigwyddodd yn ddiweddar efo Sarah Everard ‘neud i mi sylweddoli bod hwn yn eithaf ‘triggering’, a bod fi ddim yn oce. ‘Dw i ddim drosto fo.”

Image
Protestiadau Sarah Everard
Fe daniodd marwolaeth Sarah Everard sgwrs genedlaethol am drais yn erbyn menywod.

Wedi cais rhyddid gwybodaeth i luoedd heddlu Cymru, mae ffigyrau a gafodd eu darparu i ITV Cymru ac S4C yn dangos fod Heddlu De Cymru wedi derbyn 1,078 o adroddiadau o dreisio yn 2020. Dim ond 79, (7%) wnaeth arwain at gyhuddiad.

Derbyniodd Heddlu Gogledd Cymru 585 o adroddiadau o dreisio y llynedd – 30 o’r rhain (5%) wnaeth arwain at gyhuddiad.

Yng Ngwent roedd yna 438 o adroddiadau yn yr un cyfnod, gyda thri ohonynt (0.7%) yn arwain at gyhuddiad.

Yn ardal Heddlu Dyfed Powys roedd na 286 o adroddiadau o drais yn 2020, gyda 5 (2%) o rhain yn arwain at gyhuddiad.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi sefydlu uned arbenigol i ddelio gyda throseddau rhyw, a Ditectif Brif Arolygydd Jackie Downes sydd yn arwain y tîm.

Dywedodd: “Rydym ni’n cydnabod o fewn Heddlu Gogledd Cymru nad yw’n ffigyrau ni o ran canlyniadau troseddau rhyw lle’r hoffen ni iddynt fod. 

“Rydym ni’n ymdrechu’n gyson i wella, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu nid yn unig o fewn Heddlu Gogledd Cymru ond mewn ardaloedd eraill, fel sydd wedi ei adrodd yn genedlaethol.

“Ond beth rydym ni yn ei ddweud i ddioddefwyr yw y dylien nhw heb os gael yr hyder i ddod aton ni ac adrodd y troseddau hyn. Fe wnawn ni’r ymchwil sydd ei angen, a gwnawn ni asesu’r wybodaeth hynny. Fe wnawn ni weithio gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron i gael yr achosion hynny o flaen y llys a chael canlyniad addas.”

Dywedodd cynrychiolydd Heddlu De Cymru eu bod nhw’n cymryd pob adroddiad o drais o ddifri, a’u bod yn annog dioddefwyr i fynd at yr heddlu.

“Dylien nhw deimlo’n hyderus y cawn nhw eu trin gyda pharch a bydd eu hadroddiad yn cael ei ymchwilio’n llawn.

“Mae pob adroddiad o drais, trais a dybir neu drais posib yn cael eu derbyn a’u cofnodi yn ein system, beth bynnag yw ffynhonnell yr adroddiad.

“Mae hyn yn cynnwys adroddiadau gan drydydd parti, trwy bartneriaid neu gyrff eraill.”

Dywedodd cynrychiolydd ar ran Heddlu Gwent bod eu swyddogion yn ymchwilio'n drylwyr i pob adrodd o drais, ac yn cydweithio gydag asiantaethau sydd yn gallu darparu help i'r dioddefwyr. 

“Rydym ni wedi ymrwymo i gefnogi dioddefwyr ymosodiad rhyw a thrais, gan sicrhau yn gyntaf eu bod yn teimlo'n hyderus wrth adrodd troseddau i ni.

“Rydym hefyd yn cyd-weithio ag asiantaethau a all ddarparu cefnogaeth ychwanegol i ddioddefwyr, yn enwedig pryd mae dioddefwyr yn teimlo na allen nhw gyflwyno eu hadroddiad yn uniongyrchol i'r heddlu.

“Fe fyddwn yn parhau i weithio’n galed i sicrhau bod ein hymateb i ddioddefwyr yn parhau i fod wrth wraidd popeth rydym yn gwneud fel llu."

'Rhaid i rywbeth newid'

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, bydd llai nag un ym mhob chwech dynes sydd yn profi ymosodiad rhyw yng Nghymru a Lloegr yn mynd at yr heddlu. Mae hyn yn golygu y gall y nifer o ymosodiadau mewn gwirionedd fod yn sylweddol uwch.

Ar raglen ‘Y Byd ar Bedwar’, mae un menyw yn siarad am sut y gwnaeth hi gadw ei phrofiad yn gyfrinach a theimlo nad oedd hi’n gallu mynd at yr heddlu.

“Roeddwn i’n dueddol o roi’r bai arnaf i: ‘Oeddet ti wedi meddwi gymaint’, ‘mae’n siwr bod o ddim wedi digwydd fel wyt ti’n meddwl.’

“A ‘nes i ddim dweud wrth unrhyw un am amser hir chwaith achos roeddwn i'n teimlo cymaint o gywilydd, roeddwn i’n meddwl mai fy mai i oedd hi am fynd i’r stad yna.

“Os oeddwn i wedi gwisgo rhywbeth gwahanol a fyddai hyn wedi digwydd? Os doeddwn i ddim wedi meddwi gymaint a fyddai hyn wedi digwydd? Pethau fel yna.”

“Mae’n rhaid i rywbeth newid,” meddai hi, “ond dydy hi ddim i weld yn newid o gwbl”.

Ar ôl blynyddoedd o guddio’i hunllef, mae’r fenyw nawr yn derbyn cwnsela ac yn credu bod siarad allan yn ffordd o adennill rheolaeth dros y sefyllfa.

Mae hi’n annog dioddefwyr eraill i ofyn am gymorth, ac i beidio teimlo cywilydd.

Y Byd ar Bedwar, 19 Mai, 20:25

Os ydych wedi cael eich heffeithio gan faterion sydd yn cael eu trafod yn yr erthygl, mae modd dod o hyd i gymorth yn y ddolen yma: https://www.s4c.cymru/cy/cymorth/