Newyddion S4C

Alistair James yn ennill Cân i Gymru 2023

Alistair James yn ennill Cân i Gymru 2023

NS4C 04/03/2023

Y gân Patagonia gan Alistair James yw enillydd Cân i Gymru 2023.

Cafodd y gân ei dewis yn enillydd drwy bleidlais gyhoeddus yn fyw ar raglen Cân i Gymru ar S4C nos Wener.

Dylan Morris oedd yn perfformio’r gân. 

Meddai Alistair James: “Mae hwn i Russ Hayes, fy nghynhyrchydd i sydd wedi bod trwy gyfnod mor anodd...Mae o jyst yn golygu’r byd, diolch - diolch i bawb am bleidleisio, diolch am ddod. Diolch!”

Dywedodd ei fod wedi gobeithio cyflwyno "blas o De America" i'r gystadleuaeth gyda'i gân 'Patagonia'. 

Cafodd Alistair James ei fagu yn Llanfairfechan, ac mae o bellach yn byw yng Nghonwy. Mae’n cyflwyno rhaglen frecwast ar Capital FM Cymru ac wedi bod yn perfformio’n gyson ers rhyddhau ei albwm cyntaf yn ôl yn 2005.

Dyma’r trydydd tro i Alistair ymddangos ar Can i Gymru (2008 a 2020) ond y flwyddyn gyntaf iddo gymryd rhan fel cyfansoddwr yn unig. Mi gafodd ei ysbrydoli ar ôl darllen am hanes Patagonia a rhestr o enwau pobl o’r gogledd yn mynd â’r Gymraeg i ben draw’r byd.

Mae Alistair James yn ennill tlws Cân i Gymru 2023 a’r wobr o £5,000.

Cân i Mam gan Huw Owen oedd y gân a gipiodd yr ail safle a gwobr o £2,000 a Cysgu gan Alun Evans (Alun Tan Lan) oedd yn drydydd â gwobr o £1,000.

Roedd y rhaglen yn cael ei chyflwyno gan Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn fyw o Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. 

Dewisodd panel o bedwar beirniad yr wyth cân a gyrhaeddodd rownd derfynol Cân i Gymru 2023.

Y panel eleni oedd y gantores a’r cynhyrchydd Eädyth, y cerddor ac aelod o’r grŵp Pedair, Gwyneth Glyn, enillydd Cân i Gymru pedair gwaith a phrif leisydd ‘Y Moniars’, Arfon Wyn, a’r cyflwynydd radio a phrif leisydd Sŵnami, Ifan Davies.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.