Cyn-filwr yr Ail Ryfel Byd yn derbyn medal ar ei ben-blwydd yn 98 oed

Mae dyn a oedd yn filwr yn yr Ail Ryfel Byd wedi derbyn medal am ei wasanaeth ar ei ben-blwydd yn 98 oed.
Roedd Dennis Stevens o Gaerffili wedi derbyn y fedal Dutch Liberation, sydd yn cael ei gyflwyno fel arwydd o ddiolchgarwch gan bobl yr Iseldiroedd i ddynion a menywod oedd wedi cyfrannu at ryddhau'r wlad o reolaeth yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Wedi misoedd o ymarfer a pharatoi, roedd Mr Stevens yn rhan o Fataliwn Catrawd Cymry oedd wedi glanio ar draeth Normandy ym mis Mehefin 1944.
Fel rhan o'r bataliwn, roedd wedi ymladd hyd at arfordir Yr Iseldiroedd ac yna mewn i ddinas Den Bosch. Wrth gyrraedd yno roedd y bataliwn wedi ymladd yn erbyn lluoedd Yr Almaen a bu rhaid i Dennis a'i gyd-filwyr ildio iddynt.
Cafodd y ddinas ei rhyddhau ar 27 Hydref, ac mae Dennis nawr yn derbyn medal am ei ymdrechion yno.
Diolchgar
Wrth gyflwyno'r fedal i Dennis, dywedodd Cyrnol Richard Piso bod pobl Yr Iseldiroedd yn ddiolchgar iawn i Dennis a'r holl filwyr oedd yn rhan o'r ymdrechion i ryddhau'r wlad.
"Rydym yma heddiw oherwydd dy gyfraniad di, Dennis, am helpu rhyddhau'r Iseldiroedd ac am roi gobaith i'w phobl, gobaith i fod yn rhydd unwaith eto, fel y digwyddodd ar 5 Mai 1945 hyd at heddiw.
"Mae pobl Yr Iseldiroedd yn ddiolchgar i ti am byth, a ni fyddan nhw'n anghofio'r dynion a menywod dewr oedd wedi cymryd rhan mewn rhyddhau'r Iseldiroedd."
Yn ogystal, derbyniodd Dennis anrheg gan Gyngor Caerffili mewn parti a drefnwyd yn y cartref ofal lle mae'n byw
Dywedodd y Cynghorydd Teresa Heron ei fod "yn bleser i gwrdd Mr Stevens a chlywed am ei ddewrder yn yr Ail Ryfel Byd."