Pryder am ddiffyg deintyddion yng Nghymru yn y dyfodol agos

Mae pryder y bydd diffyg deintyddion yng Nghymru yn y dyfodol, yn ôl rhai o bleidiau gwleidyddol Cymru.
Daw'r pryder wrth i ffigyrau diweddar gan Lywodraeth Cymru ddangos bod 14% o ddeintyddion yng Nghymru yn agos at ymddeol, gyda'r ffigwr yn codi i 20% mewn rhai ardaloedd gwledig.
Disgrifiodd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig gwasanaethau deintyddol y GIG yng Nghymru fel gwasanaeth "ar ofal diwedd bywyd".
Ychwanegodd y blaid bod angen i Lywodraeth Cymru drafod o ddifiri â deintyddion ar gytundebau, gan ddweud bod ymchwil gan y Gymdeithas Ddeintyddol Brydeinig (BDA) yn dangos bod 13% o ddeintyddion yn rhoi'r gorau i'w cytundebau erbyn diwedd mis Mawrth eleni.
Dywedodd Jane Dodds: "Mae rhaid i wariant ar ddeintyddiaeth yng Nghymru godi i'r un lefelau ag yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban.
"Rydym fethu â pharhau i'r cyfeiriad yma. Mae angen iddynt gyfathrebu'n fanwl gyda deintyddion am eu pryderon a dros gytundebau hefyd."
'Cynyddu cyllid'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi cynyddu cyllid a'u bod nhw yn parhau i weithio gyda'r sector i wella gwasanaethau.
"Rydym wedi cynyddu cyllid i ddeintyddiaeth gan fwy na £27 miliwn o gymharu â 2018-19. Yn ogystal, rydym wedi dyblu'r nifer o lefydd i astudio therapi deintyddol ym Mhrifysgol Caerdydd a chreu cynllun hylendid deintyddol newydd ym Mhrifysgol Bangor.
"Rydym yn parhau i weithio gyda'r sector i ymchwilio i sut mae diwygio'r system cytundebau deintyddol cenedlaethol ac annog deintyddfaoedd i gydweithio er lles eu cymunedau.
"Mae hwn wedi caniatáu 140,000 o gleifion sydd wedi methu â chael apwyntiad deintydd i dderbyn un eleni.