Streic gweithwyr ambiwlans ddydd Llun wedi ei ohirio

Mae streic gan weithwyr ambiwlans oedd wedi ei threfnu ar gyfer ddydd Llun wedi cael ei ohirio.
Fe gyhoeddodd Unite Cymru bod y streic wedi ei ohirio yn dilyn “cynydd sylweddol” mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru.
Mewn datganiad byr, dywedodd lefarydd ar ran Unite: “Bydd y seibiant mewn gweithredu diwydiannol yn galluogi’r trafodaethau barhau.”
Bydd yr undeb yn cadarnhau wythnos nesaf a fyddai'r streic sydd wedi ei drefnu ar gyfer 10 Mawrth yn mynd ymlaen neu beidio, yn dilyn trafodaethau gyda’r Llywodraeth.
Fe wrthododd yr undeb gynnig diwethaf y llywodraeth, o godiad ychwanegol o 3% ar gyfer 2022/23 ar ben y codiad o 4.5% oedd eisoes wedi'i gynnig.
Dywedodd llefarydd dros Lywodraeth Cymru:
"Rydym yn croesawu'r oedi cyn streicio gan Unite a GMB tra bod trafodaethau gyda’n partneriaid cymdeithasol yn yr undebau llafur yn parhau.”