Newyddion S4C

Chwaer 'mor ddiolchgar' i'w brawd am roi aren iddi

Chwaer 'mor ddiolchgar' i'w brawd am roi aren iddi

NS4C 09/03/2023

Mae dynes o Fethel ger Caernarfon yn diolch i’w brawd bach am roi “cyfle am fywyd llawn iddi” ar Ddiwrnod Aren Y Byd.

Fis Rhagfyr y llynedd fe deithiodd Zoe Jones, 32 oed, a’i brawd bach Louis Williams oedd yn 29 ar y pryd i Lerpwl ar gyfer llawdriniaeth oedd yn hanfodol i iechyd Zoe, sef trawsblaniad yr aren.

Dros 10 mlynedd yn ôl fe gafodd Zoe wybod fod ganddi gyflwr sydd yn amharu ar ei harennau ond roedd y newyddion ei bod angen aren newydd yn 30 oed yn dipyn o sioc iddi.

"'Dyn nhw ddim yn gwybod pam bod genna fi fo. Does na ddim rheswm, jyst bod o yn gyflwr ma’ lot o bobl yn dioddef ohona fo," meddai Zoe wrth Newyddion S4C.

"Mae o wedi bod yn broses reit hir o wybod bod o ganddo fi lly’, ond ddim yn gwbod pryd oedd rwbath am ddigwydd. Mae o reit swreal rŵan o feddwl be sydd wedi digwydd yn yr amser yna hefyd.
 
"Nath o ddigwydd yn gynt na be oedda ni’n meddwl, felly es i ar y rhestr aros am drawsblaniad, a dechrau meddwl am y posibilrwydd o gael rhywun o’r teulu yn match i fi.

"O’n i yn shell shocked, o’n i rili ddim yn disgwyl iddo fo ddigwydd pan o’n i mor ifanc."

'Brawd gorau yn y byd'

Fe wnaeth mam, tad a chwaer Zoe wneud profion ond Louis oedd y "match perffaith" ar gyfer corff Zoe. 

"Gafo ni apwyntiad ar ôl apwyntiad. Do’n i ddim yn cael bod yn rhan o’r drafodaeth os oedd aelod o’r teulu isio profi i weld os oeddan nhw yn match," meddai. 

"Do’n i ddim yn gallu fforsho pobl i mewn idda fo, na neud y penderfyniad drostyn nhw. Ac mae hynny yn beth da. 

“Ma' genno fi dream team o deulu a dwi erioed wedi gorfod gofyn iddyn nhw i neud dim.”

Image
newyddion
Zoe a'i brawd Louis.

Er bod peth amser wedi bod erbyn hyn, mae trafod y trawsblaniad yn gwneud Zoe yn emosiynol. 

"Mae o dal yn sore subject, y mwyaf dwi’n meddwl am y peth. Achos ma’ gan Louis ei deulu ei hun a Duw a wyr beth sydd am ddod yn y blynyddoedd nesa, fatha be os fysa ‘na rwbath efo’i blant o. 

"Oedd o yn codi lot o gwestiyna a ‘sa fo wedi gallu tynnu nôl rhyw dro ac yn aml iawn, oni yn cau'r sgwrs lawr. 

"Oedd pawb yn deutha fi, ‘sa chdi’n rhoi idda fo, os fysa fo angen. Ac ma' 'na wir yn hynna ond ma’ emosiyna' dal i fod wan yn meddwl amdano fo a be mae o wedi rhoi ei gorff drwy.

"Dwi’n hynod o ddiolchgar am be mae o wedi neud i fi de.

"Dwi'n meddwl bod y teulu gyfan mor ddiolchgar idda fo, a dwi ddim yn meddwl bod o yn sylweddoli pa mor amazing ydy be mae o wedi neud de. Mae o’r brawd gora yn y byd de.”

Diolchgar

Roedd iechyd Zoe yn ddibynnol ar gael aren newydd, ac heb hynny, byddai wedi gorfod wynebu cael triniaeth hirdymor.

"Heb y trawsblaniad 'swn i ella yn gorfod mynd ar dialysis am amser, neu fyswn i yn gorfod aros am match," meddai.

"Dwi wedi bod mor lwcus o Louis. Dim pawb sydd efo hynna, weithia ti’n gallu dod ar draws pobl lle does neb yn y teulu yn match."

Mae Zoe yn meddwl y dylai bawb ddathlu Dydd Aren Y Byd ddydd Iau ac addysgu eu hunain am arennau. 

"Y neges oni isio rhoi hefyd ydy: oedda ni’n poeni am y llawdriniaeth ond i ddod allan ohono fo wedyn a gweld y goleuni, ti'n meddwl ella do'n i ddim angen poeni gymaint," meddai.

"Fel oedd Louis yn deud, mae o wedi gallu rhoi rwbath i arbed fi rhag mynd trwy rywbeth anoddach. Mae o werth y byd.

"Os dachi ddigon iach i allu rhoi, 'da chi’n safio bywyd rhywun a ma' nhw wedyn yn gallu cael bwyd llawn fel dwi’n gallu cael wan de."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.