Rhybudd fod prifysgolion Cymru yn wynebu ‘colledion swyddi mawr’
Mae Aelod Seneddol wedi rhybuddio fod prifysgolion Cymru yn wynebu “colledion swyddi mawr” wrth i arian gan yr Undeb Ewropeaidd ddod i ben.
Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi buddsoddi £950m mewn prifysgolion yng Nghymru a Lloegr ers 2014 – ond bydd yr olaf o’r arian a ddosbarthwyd cyn Brexit yn dod i ben ar ddiwedd mis Mawrth eleni.
Dywedodd Aelod Seneddol Gorllewin Abertawe, Geraint Davies bod mil o swyddi yng Nghymru yn ddibynnol ar yr arian.
Roedd 240 ohonynt o fewn Prifysgol Abertawe yn ei etholaeth yn unig, meddai, a byddai angen £71m y flwyddyn ar Gymru er mwyn osgoi syrthio oddi ar y "clogwyn".
Dywedodd Arweinydd Tŷ’r Cyffredin Penny Mordaunt wrtho ei bod hi’n bwriadu codi’r pwnc gyda’r Canghellor Jeremy Hunt.
“Fe wnaf i’n siŵr bod y Canghellor wedi ei glywed o,” meddai hi yn Nhŷ’r Cyffredin.
'Hollbwysig'
Mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu'r Gronfa Ffyniant Gyffredin £2.6bn er mwyn cymryd lle arian yr Undeb Ewropeaidd.
Ond wrth siarad gyda phapur newydd y Financial Times ddydd Mercher rhybuddiodd Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, Paul Boyle bod y sector “ar ymyl y dibyn”.
“Alla i ddim meddwl am gyfnod arall pan oedd cymaint o waith ymchwil gwerthfawr mewn peryg o ddiflannu,” meddai.
“Mae hyn er gwaetha’r ffaith bod Llywodraeth y DU yn dadlau bod ymchwil wrth galon ein cais am dwf economaidd.”
Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Geraint Davies bod angen i Lywodraeth y DU “ymyrryd er mwyn achub prifysgolion Cymru rhag colli swyddi a phrosiectau”.
“Mae hwn yn fuddsoddiad hollbwysig yn yr economi werdd, yn hytrach nag arian o ddydd i ddydd,” meddai.
Llun: Prifysgol Caerdydd gan Stan Zurek. Prifysgol Bangor gan Denis Egan. Prifysgol Abertawe gan SwanseaUni (CC BY-SA 4.0). Prifysgol Aberystwyth gan Tanya Dedyukhina (CC BY 3.0).