Newyddion S4C

25 o chwaraewyr tîm menywod Cymru yn ennill cytundebau proffesiynol

03/03/2023
Menywod rygbi Cymru

Bydd 25 o chwaraewyr tîm menywod Cymru yn ennill cytundebau proffesiynol eleni, yn ôl Undeb Rygbi Cymru.

Roedd yr undeb wedi rhoi cytundebau llawn amser i 12 o chwaraewyr a 17 cytundeb rhan amser y llynedd.

Ond bydd mwy na dwbl yn cynrychioli’r tîm yn broffesiynol eleni.

Y chwaraewyr sydd wedi ennill cytundebau llawn amser yw:

Abbie Fleming, Cerys Hale, Kerin Lake, Lleucu George, Lowri Norkett, Megan Webb, Niamh Terry, Sisilia Tuipulotu, Alex Callender, Bethan Lewis, Georgia Evans, Gwenllian Pyrs, Keira Bevan, Kelsey Jones, Natalia John, Elinor Snowsill, Alisha Butchers, Carys Phillips, Donna Rose, Ffion Lewis, Gwen Crabb, Hannah Jones, Lisa Neumann, Robyn Wilkins, Carys Williams-Morris.

Mae rhai chwaraewyr, fel Alex Callender, Lowri Norkett, Megan Webb a Robyn Wilkins wedi ennill statws proffesiynol ar ôl bod yn chwaraewyr rhan amser y llynedd, tra bod Carys Williams-Morris yn parhau gyda sel bendith ei chyflogwr, yr Awyrlu Brenhinol (RAF).

Ysbrydoli merched ifanc

Dywedodd Ioan Cunningham, bod y penderfyniad yn “gwobrwyo’r chwaraewyr am eu hymrwymiad, proffesiynoldeb a lefel perfformiad".

"Ein nod eleni yw parhau i adeiladu ar y cynnydd a ddigwyddodd yn 2022, ond rydym yn ymwybodol bod gwledydd eraill hefyd yn datblygu a chynnig cytundebau llawn amser, felly mae’n hanfodol ein bod ni’n bwrw ymlaen,” ychwanegodd.

Meddai’r canolwr, Hannah Jones: "Rydw i wedi eisiau bod yn chwaraewr rygbi erioed ac o’r diwedd, mi allaf ddweud fy mod i yn chwaraewr rygbi proffesiynol.

“Dw i’n gobeithio y gall hyn ysbrydoli ac annog merched ifanc i chwarae’r gamp arbennig yma, gan ei fod bellach yn yrfa sydd o fewn ein cyrraedd.”

Bydd tîm Cymru yn cychwyn eu hymgyrch Pencampwriaeth y Chwe Gwlad TikTok ar Dydd Sadwrn Mawrth 25, gartref yn erbyn Iwerddon.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.