Newyddion S4C

Pryder ffermwyr Cymru y gallai mwy o gig oen o dramor arwain at ‘gyflafan'

Pryder ffermwyr Cymru y gallai mwy o gig oen o dramor arwain at ‘gyflafan'

Fe allai mwy o gig oen o dramor arwain at "gyflafan" i ffermydd defaid yng Nghymru - dyna'r rhybudd plaen gan un o aelodau amlycaf Undeb Amaethwyr Cymru.

Fe ddaw sylwadau Phil Jones, Cadeirydd Cangen Sir Gaerfyrddin o'r Undeb, yn dilyn cynnydd mewn mewnforion cig y llynedd, yn enwedig o Seland Newydd.  

Er bod yna gytundebau masnach newydd, mae Llywodraeth Prydain yn dweud y bydd ffermwyr Cymru'n cael eu gwarchod.

"Wi'n credu bod ni'n edrych trwy gil y drws ac yn gweld cyflafan yn cychwyn, mae yno ar y gorwel," meddai Phil Jones, sy'n ffermio 350 o ddefaid ar fferm Clyttie Cochion yn Llanpumsaint.

"Oherwydd bod Llywodraeth Prydain wedi gwneud cytundebau gyda Seland Newydd ac Awstralia, mae'r rheini wedi cytuno, mae 'na rai eraill ar fin cael cytundebau. Mae pris bwyd eisoes wedi syrthio bron i bunt y cilo.”

Image
Phil Jones

‘Gwasgu’

Wrth siarad gyda rhaglen Newyddion S4C, fe ddywedodd ei fod yn “siŵr bod y Llywodraeth yn canolbwyntio'n fwy ar gostau tŷ lawr nag y maen nhw ar y gyfundrefn sy'n cynhyrchu bwyd”.

“A'r peryg mawr maes o law, falla y daw na gyfnod pryd fydd na ddim diwydiant gyda ni yn y wlad hon oherwydd bod e wedi cael ei wasgu'n ormodol o ran prisiau fydd hi ddim yn broffidiol i gynhyrchu mwy o fwyd,” meddai.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru'n cyfeirio at ffigyrau masnach Prydain (UK trade data) sy'n dangos cynnydd o 17% mewn mewnforion cig oen y llynedd, ac yn tynnu sylw at gynnydd anarferol mewn cynnyrch o Seland Newydd rhwng Medi a Thachwedd.

Maen nhw'n dweud bod pris cig oen sy'n cael ei gynhyrchu ym Mhrydain wedi gostwng 90c y cilo dros gyfnod o flwyddyn.

"Mae 'na ddigon o dystiolaeth i ddangos does 'na ddim llawer o fantais i Brydain yn hyn o beth... mae llawer yn fwy manteisiol i Seland Newydd ac Awstralia na fydd e i ni," meddai Phil Jones.

"A'n gofid mawr ni yw ydan ni am gadw ffermydd teuluol yng Nghymru. Odyn ni? Bydd hwn yn hoelen arall yn ein coffiniau ni. Ydan ni moyn cadw'r iaith Gymraeg yn fyw? Mae chi hoelen arall o bosib."

Image
Dave Calthorpe

‘Stryglan’

Ond i ba raddau all mwy o gig o dramor olygu prisiau is i gwsmeriaid? Mae Dave Calthorpe yn gigydd yn Cross Hands.

"Mae'r pris yn mynd lawr yn y supermarkets ond ddim yn y bwtsiars sy'n iwsio'r fferms lleol, a fi'n stryglan cael y pris lawr oherwydd mae'n mynd lan constantly oherwydd mae'r costs yn mynd lan,” meddai.

“Fi moyn iwsio lamb o Gymru, nid o Loegr. Dwi isio cefnogi ffermwyr Cymreig. Os dwi ddim yn rhoi support i farmers dwi ddim yn gallu gofyn i bobol roi support i fi."

Telerau

Dweud mae Llywodraeth Prydain fodd bynnag y bydd ffermwyr yn cael eu gwarchod gan fod y dreth ar fewnforion o Seland Newydd ac Awstralia'n gostwng yn raddol - dros gyfnod o bymtheng mlynedd.

Yn ogystal, bydd modd i ffermwyr o Gymru werthu mwy o gig dramor o ganlyniad i gytundebau masnach.

Am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd mae cig oen Prydeinig yn cael ei werthu yn yr Unol Daleithiau, marchnad fydd yn werth tua £37m dros y pum mlynedd nesaf.

O dan delerau'r cytundeb a Seland Newydd, fe fyddai gan Lywodraeth Prydain yr hawl i osod treth uwch ar gig defaid am hyd at 20 mlynedd wedi i'r cytundeb ddod i rym.

Fe gadarnhaodd y Llywodraeth mai'r cynnydd mewn mewnforion cig oen a defaid yn 2022 oedd 16.6%.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.