Newyddion S4C

Nwy

Disgwyl i'r Trysorlys barhau i gynnig cefnogaeth ariannol i dalu biliau ar ôl mis Ebrill

NS4C 03/03/2023

Mae disgwyl i'r Trysorlys barhau i gynnig cefnogaeth ariannol sylweddol i bobol er mwyn helpu i dalu biliau ynni y tu hwnt i fis Ebrill eleni.

Roedd disgwyl i filiau ynni gynyddu ar gyfartaledd o £2,500 i £3,000 y flwyddyn o fis Ebrill ymlaen. 

Ond mae'r BBC ar ddeall fod rhai cwmnïau ynni eisoes wedi dechrau addasu biliau mewn modd sy'n awgrymu eu bod nhw'n disgwyl i gymorth ariannol barhau ar lefel tebyg i'r presennol y tu hwnt i 1 Ebrill. 

Ar hyn o bryd, mae'r llywodraeth wedi cyfyngu'r biliau ynni i £2,500 y flwyddyn ar gyfartaledd yn ogystal â chyflwyno cynllun dros y gaeaf a oedd yn cynnig £400 ychwanegol i'r rheini oedd yn talu'r biliau. 

Roedd disgwyl i'r gefnogaeth gael ei dynnu'n ôl yn llwyr neu yn raddol ym mis Ebrill, gan olygu y bydd teuluoedd yn wynebu gorfod talu mwy. 

Hyd yma, mae'r Canghellor Jeremy Hunt wedi gwrthod galwadau i barhau â'r gefnogaeth, ond mae arbenigwyr wedi awgrymu ei bod hi'n debygol iawn y bydd hyn yn newid, yn fwy na'r tebyg yng Nghyllideb y Gwanwyn ar 15 Mawrth. 

Wrth siarad ar Radio 4 y bore ma, dywedodd Martin Lewis o Money Saving Expert, sydd wedi bod yn ymgyrchu i gadw biliau yn isel, ei fod bellach yn disgwyl iddyn nhw godi tua 20% neu aros yr un fath.

Ond doedd y terfyn amser i gwmiau ynni ddatgan faint y byddai biliau yn codi heb gyrraedd eto, meddai.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.