Tesco yn arddangos sticeri diogelwch ar badlfyrddau yn dilyn marwolaeth dynes o Landudno
Bydd Tesco yn dangos sticeri diogelwch ar badlfyrddau yn dilyn marwolaeth dynes o Landudno oedd wedi prynu padlfwrdd gan yr archfarchnad.
Bu farw Emma Powell o Landudno ym mis Gorffennaf y llynedd ar ôl mynd i badlfyrddio am y tro cyntaf ar badlfwrdd sefyll yr oedd hi wedi ei brynu'n gynharach y diwrnod hwnnw.
Ym mis Rhagfyr, fe gofnododd yr Uwch Grwner John Gittins yn y cwest i farwolaeth Ms Powell ei bod wedi marw o ganlyniad i “drochi mewn dŵr”.
Dywedodd hefyd y byddai'n ysgrifennu at Lywodraeth y DU er mwyn mynegi ei bryder am ddiogelwch padlfyrddau.
Fe wnaeth y crwner hefyd bwysleisio cyfrifoldeb siopau ac archfarchnadoedd sy'n gwerthu padlfyrddau.
'Cam hanfodol'
Mae Tesco bellach wedi dweud y byddant yn ychwanegu sticer diogelwch ar bob un padlfwrdd sefyll a fydd yn dangos y ffordd gywir i wisgo'r cortyn o gwmpas y ffêr mewn amodau dŵr gwahanol.
Dywedodd British Canoeing fod hyn yn "gam hanfodol" er mwyn codi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd wrth i boblogrwydd padlfyrddio gynyddu.
Mewn llythyr i'r crwner, dywedodd Tesco ei fod yn "gweithio'n galed" er mwyn sicrhau fod y cynnyrch y mae'n ei werthu yn ddiogel a bod "clywed am unrhyw un o'n cwsmeriaid sydd wedi marw tra'n defnyddio ein cynnyrch yn dorcalonnus".