Cyfreithiwr yn euog o lofruddio ei wraig a'i fab

Mae cyfreithiwr adnabyddus o America wedi ei gael yn euog o lofruddio ei wraig a'i fab.
Fe wnaeth Alex Murdaugh, 54, saethu ei wraig, Margaret, 52, bedair neu bum gwaith gyda gwn tu allan i'w cartref yn nhalaith De Carolina ar 7 Mehefin 2021.
Ar yr un diwrnod, saethodd ei fab 22 oed Paul ddwywaith gyda gwn.
Dywedodd erlynwyr fod y cyfreithiwr, a oedd yn dod o deulu adnabyddus a chyfoethog, wedi llofruddio'r ddau er mwyn tynnu sylw o'r ffaith ei fod wedi bod yn dwyn o'r cwmni teuluol am ei fod yn gaeth i gyffuriau.
Dywedodd ymchwilwyr fod Mr Murdaugh wedi dwyn miliynau gan gwsmeriaid a chydweithwyr, gan gynnwys $3.7m yn 2019 yn unig.
Mae'n wynebu 30 mlynedd yn y carchar heb barôl ar gyfer pob cyhuddiad o lofruddiaeth.
Dywedodd yr erlynydd, y Cyfreithiwr Cyffredinol Alan Wilson, fod "dyfarniad heddiw yn profi nad oes neb, waeth pwy ydych chi mewn cymdeithas, uwchlaw'r gyfraith".
Llun: Delwedd Facebook o Alex Murdaugh, ei wraig a'i fab.