Plaid Cymru yn addo ‘cynllun economaidd newydd i Gymru’ ar ddechrau cynhadledd
Mae Plaid Cymru wedi addo “cynllun economaidd newydd i drawsnewid economi Cymru” ar ddechrau eu cynhadledd wanwyn.
Dywedodd arweinydd y blaid, Adam Price, y byddai gan Chwyldro Gwyrdd Cymreig “y gallu i drawsnewid economi Cymru”.
Roedd yr argyfwng economaidd presennol sy'n wynebu teuluoedd yng Nghymru yn "ganlyniad uniongyrchol" i benderfyniadau gwleidyddol, meddai.
Bydd Cynhadledd Wanwyn Plaid Cymru yn cael ei chynnal ddydd Gwener a Sadwrn, 3 a 4 o Fawrth yn Theatr Y Ffwrnes yn Llanelli.
Er mwyn arwain trawsnewidiad economaidd roedd angen ar Gymru y grym i wneud hynny, gan gynnwys “setliad cyllido tecach, pwerau ariannol cryfach a rheolaeth lawn dros ein hadnoddau naturiol,” meddai Adam Price.
Byddai hynny yn cynnwys datganoli ystâd y Goron, sydd eisoes wedi digwydd yn yr Alban a rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi cefnogaeth tuag ato.
“Mae angen i ni drawsnewid ein heconomi nawr i godi safonau byw ac amddiffyn ein hunain rhag anhrefn economaidd San Steffan – gan gymryd perchnogaeth o'n hadnoddau naturiol a buddsoddi yn ein busnesau lleol,” meddai Adam Price.
“Gall Cymru fel cenedl annibynnol a rhydd o anhrefn San Steffan, fod yn berchen ar economi gref a deinamig, wedi’i seilio ar fusnesau cynhenid llwyddiannus.”
‘Tecach’
Dywedodd Adam Price ei fod yn gobeithio cael grymoedd economaidd pellach gan lywodraeth nesaf San Steffan.
Ar hyn o bryd, mae’r Blaid Lafur ar y blaen yn y polau piniwn, ond does dim disgwyl etholiad nes y flwyddyn nesaf, o leiaf.
Wrth annerch y llywodraeth nesaf yn uniongyrchol, meddai: “Rhowch y grym i ni yng Nghymru fel y gallwn ddechrau’r gwaith o drawsnewid economi Cymru – gan wneud tlodi yn ran o hanes, nid realiti miloedd o bobl pob dydd.
“Mae hynny’n dechrau gyda setliad cyllido tecach, pwerau ariannol cryfach a rheolaeth lawn dros ein hadnoddau naturiol - gan gynnwys datganoli ystâd y Goron - fel y gallwn gymryd perchnogaeth o botensial anhygoel Cymru i yrru'r Chwyldro Diwydiannol Werdd nesaf.”