Cyhuddo dau o ddynladdiad ar ôl canfod babi yn farw yn Brighton

02/03/2023
Mark Gordon and Constance Marten

Mae Constance Matern a'i phartner Mark Gordon wedi'u cyhuddo o ddynladdiad trwy esgeulustod difrifol wedi i fabi gael ei ddarganfod yn farw. 

Cafodd Ms Marten, 35, a Mr Gordon, 48, eu harestio yn Brighton nos Lun ar amheuaeth o esgeuluso plentyn. 

Aeth y cwpl ar goll ychydig o ddyddiau wedi genedigaeth eu babi ar ddechrau mis Ionawr. Cafodd eu car ei ddarganfod yn llosgi ar y M61 ger Bolton ar 5 Ionawr. 

Fe wnaeth y cwpl deithio ar draws Lloegr, gan gynnwys Lerpwl, Llundain ac Essex, cyn cael eu harestio yn Brighton. 

Yn sgil eu harést, dechreuodd ymgyrch brys i ddarganfod y babi oedd yn parhau ar goll. Cafodd babi ei ddarganfod yn farw mewn ardal o goedir tu allan i Brighton nos Fercher. 

Mae Ms Marten a Mr Gordon bellach wedi'u cyhuddo o ddynladdiad trwy esgeulustod difrifol, yn ogystal â chuddio genedigaeth plentyn a rhwystro trywydd cyfiawnder.

Yn ôl heddlu, y gred yw bod y babi sydd wedi ei ddarganfod wedi bod yn farw "am gyfnod hir".

Fe fydd Ms Marten a Mr Gordon yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Brighton ddydd Gwener.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.