Newyddion S4C

Rob Roberts

Aelod Seneddol yn galw am refferendwm newydd ar ddatganoli

NS4C 02/03/2023

Mae Aelod Seneddol o Gymru wedi galw yn Nhŷ’r Cyffredin am refferendwm newydd ar ddatganoli.

Awgrymodd yr aelod annibynnol dros Delyn, Rob Roberts, bod datganoli yn “arbrawf a oedd wedi methu”.

Dylid trefnu refferendwm er mwyn “profi ewyllys pobol Cymru” meddai.

Ychwanegodd fod datganoli yn “arbrawf 25 mlynedd a oedd wedi methu a heb wneud dim ar gyfer pobol gogledd Cymru”.

Wrth gyfeirio at gynlluniau i ychwanegu 36 aelod newydd at Senedd Cymru cyn 2026, dywedodd: “Nawr maen nhw eisiau ehangu unwaith eto gyda chost o £100m.

“Fy nymuniad pennaf i - ac rwy’n siŵr na fydd byth yn cael ei wireddu - ydi bod Llywodraeth y DU yn edrych eto ar beth sy’n digwydd yng ngogledd Cymru.

“Mae angen iddyn nhw roi o’r neilltu'r syniad o ddatganoli ac anghofio am ddod a mesurau gerbron er mwyn profi ewyllys pobol Cymru unwaith eto a gweld a ydyn nhw eisiau parhau â’r arbrawf yma sydd wedi methu.”

Cafodd Rob Roberts ei ethol yn aelod Ceidwadol dros Delyn yn 2019.

Fe gollodd chwip y blaid yn 2021 o ganlyniad i honiadau o aflonyddu rhywiol yn ei erbyn.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.