Newyddion S4C

Streiciau athrawon

Athrawon sy’n streicio yn cynnal rali y tu allan i’r Senedd

Mae athrawon sy’n streicio wedi cynnal rali y tu allan i’r Senedd ddydd Iau.

Dyma oedd y diwrnod cyntaf o streicio gan aelodau'r undeb NEU wedi iddynt wrthod cynnig tâl newydd gan Lywodraeth Cymru. 

Roedd y Llywodraeth wedi cyflwyno cynnig newydd a oedd yn ychwanegu 1.5% ar ben y codiad cyflog o 5% am eleni, ac 1.5% yn ychwanegol fel taliad un tro.

Ond dywedodd y rheini oedd yn y rali ym Mae Caerdydd eu bod nhw’n pryderu y byddai pobol yn dechrau gadael eu swyddi i chwilio am rai gwell tu allan i’r sector addysg.

Dywedodd Claire Bradford, 42, athrawes yn Ysgol Penmaes, ysgol arbennig yn Aberhonddu: “Dyw dysgu ddim yn alwedigaeth sy’n atynnu pobol rhagor.

“Ry’n ni’n caru’r swydd oherwydd bod modd gwneud gwahaniaeth, ond swydd yw e yn y pen draw a ry’n ni eisiau cyflog teg am ei wneud e.

“Os yw pawb yn mynd bant a gwneud rhywbeth gwanhaol fe fydd yna llai o athrawon da a bydd y plant yn diodde’.”

'Cefnogi'

Dywedodd un rhiant a oedd yno ei fod yn “cefnogi yn llwyr” penderfyniad yr athrawon i streicio.

Dywedodd Kane Brown, 48, o Gaerdydd, ei fod yn gwylio’r streic gyda’i fab Fabian, chwech, oedd yn colli ysgol o ganlyniad i’r streic.

“Ry’n ni’n eu cefnogi i’r carn ac fe ddylen ni gael mwy o dâl,” meddai.

“Maen nhw’n gallu dod o hyd i arian ar gyfer popeth heblaw am addysg ar gyfer y genhedlaeth nesaf.”

Mae dau ddiwrnod arall o streiciau wedi eu trefnu gan yr undeb ar gyfer 15 a 16 Mawrth. 

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru "fod pawb yn cydnabod gwaith anhygoel ein gweithlu, ond maent hefyd yn cydnabod yr heriau ariannol heriol sy'n ein hwynebu”. 

"Rydym ni'n credu fod cynnig sy'n gyfystyr â chodiad cyflog o 8%, gyda 6.5% cyfnerthedig, yn un cryf yng nghyd-destun cyllid Llywodraeth Cymru sy'n lleihau,” medden nhw.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.