Newyddion S4C

Cyfres podlediad newydd yn cyflwyno 'stori lawn' Tryweryn

05/03/2023

Cyfres podlediad newydd yn cyflwyno 'stori lawn' Tryweryn

Mae podleidiad newydd gan y BBC yn edrych eto ar hanes boddi Tryweryn drwy gyfrwng y Saesneg.

Dywedodd y BBC y bydd y gyfres newydd yn edrych ar yr “ymdeimlad o anghyfiawnder sy’n parhau i losgi” flynyddoedd wedyn.

Bydd y podleidiad, sy'n cael ei chyflwyno gan Betsan Powys, hefyd yn edrych ar y bomio a’r blynyddoedd o anghydfod gwleidyddol yn sgil boddi Capel Celyn.

Mae pennod gyntaf y gyfres newydd, Drowned, ar gael rŵan ar BBC Sounds.

Mae’n cynnwys cyfweliadau personol gyda’r teuluoedd a orfodwyd i adael dyffryn Tryweryn yn ogystal â'r bomwyr, a gwleidyddion y cyfnod.

'Stori Drawiadol'

Mewn sgwrs gyda Newyddion S4C, dywedodd Betsan ei bod yn gobeithio fod y podlediad yn "adrodd yr hanes yn llawn".

“Mae rhai pobl yn clywed Cofiwch Dryweryn erbyn hyn, trigain mlynedd ar ôl y stori ei hun, ac yn meddwl ‘o, anghofiwch Dryweryn, ni wedi clywed hen ddigon am Dryweryn nawr' – a dw i’n deall hynny.

“Ond beth sydd fan hyn yw cyfrwng gwahanol, cyfres o bodlediadau, sy’n golygu gall rhywun droi ato, sydd prin yn gwybod am Gymru, heb sôn am Dryweryn, a thrwy wrando ar Drowned, eu bod nhw’n dod i glywed am stori Cymru o’r 60au hyd at heddiw.

“Dyna yw e, defnyddio Tryweryn i adrodd hanes protest gwleidyddol yng Nghymru. Dyna’r gobaith, bod stori drawiadol yn cael ei ddweud yn drawiadol ac yn denu cynulleidfa newydd i stori Cymru.

“Mae ‘na gymaint o haenau i’r stori ac mae’n rhaid ei dweud hi yn llawn. Er enghraifft, doedd pawb yng Nghapel Celyn ddim yn erbyn boddi’r cwm, mae pobl yr ardal yn gwybod hynny’n iawn.

"Roedd 'na bobl yn teimlo eu bod yn cael gwell tai a bod o’n beth da, ond ni’n dueddol o adrodd y stori yn syml. Maen nhw’n elfennau sydd yn ychwanegu i’r stori, nid tynnu i ffwrdd, ac mi ddylen ni ymfalchïo ynddyn nhw.”

Image
Cofiwch Dryweryn

Cysylltiad teuluol

Yn ystod y gyfres, byddwn hefyd yn clywed gan mam Betsan, sydd yn trafod cysylltiad uniongyrchol rhwng eu teulu ac un o fannau diwylliannol bwysica’r genedl.

“Mae’r wal Cofiwch Dryweryn sydd rhwng Llanrhystud ac Aberystwyth yn enwog erbyn hyn,” ychwanegodd Betsan, “ond pan oedd mam yn ferch fach, fe faged hi ar fferm Glancarrog, sydd o fewn tafliad carreg o’r wal.

“Byddai mam yn dal y bws ysgol tu allan le oedd dau fwthyn, lle mae’r wal nawr wrth gwrs. Ond beth mae mam yn cofio yw dau fwthyn gwyngalchog.

“Mi oedd John yn byw yn un o’r bythynnod, a phan fu farw ei chwaer, fe ddaeth lawr i fyw mewn bwthyn bach ar fferm mam a’r teulu, ac mae’r dreser daeth John â fe o’r bwthyn, Troed y Rhiw, bellach gan mam.

“Mae’r dreser mawr, derw, plaen iawn yn nhŷ mam yng Nghaerdydd, ond i mam, mae’n gyswllt uniongyrchol iawn efo beth y’n meddwl fel man protest eiconig. I fy mrawd a fi, dreser Cofiwch Dryweryn yw e erbyn hyn.

“Roedd mam yn siarad gyda fi’n Gymraeg ar y podlediad ac oedd rhaid i fi ddweud wrth mam i siarad ‘in English’. Atebodd mam - ‘In English? I don’t think I’ll be able to do this in English!’

“A ni wedi cadw hwnna i mewn achos bod e’n arwydd i bobl o dyna sut mae pobl o hyd, peidiwch â meddwl bod y Gymraeg yn rhywbeth sy’n perthyn i amgueddfa.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.