Manylion gweithwyr wedi eu heffeithio ar ôl i WH Smith ddioddef ymosodiad seibr

Fe gafodd hacwyr fynediad i wybodaeth am weithwyr WH Smith yn dilyn ymosodiad seibr diweddar.
Mae’r adwerthwr wedi dweud ni chafodd gweithgareddau masnachol eu heffeithio, na chwaith gwefan y cwmni a chyfrifon cwsmeriaid.
Mewn datganiad, dywedodd WH Smith ei bod yn “rhoi mesurau yn eu lle" i gefnogi'r staff sydd wedi eu heffeithio.
Dywedodd lefarydd ar ran WH Smith: “Ar ôl dod yn ymwybodol o’r sefyllfa, fe lansiwyd ymchwiliad ar unwaith, gan roi cynlluniau ymateb digwyddiad a gwasanetahu cefnogaeth arbennig ar waith, gan gynnwys rhoi gwybod i’r awdurdodau perthnasol.
“Mae WH Smith yn cymryd diogelwch seibr yn hynod o ddifrifol ac mae'n ymchwiliadau yn parhau.”
Daw hyn ar ôl nifer o ymosodiadau ar sefydliadau ar draws y DU dros y misoedd diwethaf, gan gynnwys y Post Brenhinol a JD Sports, ble cafodd manylion personol oddeutu 10 miliwn o bobl eu dwyn.