Cyngor yn ymddiheuro am chwifio'r faner anghywir ar Ddiwrnod Dewi Sant

Mae Cyngor yn Lloegr wedi ymddiheuro am chwifio'r faner anghywir ar Ddiwrnod Dewi Sant.
Fe wnaeth Cyngor Sheffield arddangos baner Yr Alban ddydd Mercher.
Gwelwyd y faner yn chwifio o bolyn ar adeilad neuadd y dref, cyn iddi gael ei thynnu lawr a baner Dewi Sant yn cael ei chodi yn ei lle.
Ffotograffydd lleol wnaeth rannu'r llun ar Twitter wnaeth sylweddoli fod y camgymeriad wedi ei wneud.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sheffield eu bod wedi cydnabod bod camgymeriad wedi digwydd.
"Rydym yn ymddiheuro bod y faner anghywir wedi cael ei chwifio heddiw. Hoffwn ddymuno Diwrnod Dewi Sant Hapus i bawb sy'n dathlu."
Llun: The Steel City Snapper