Darganfod corff wedi i fabi fynd ar goll

Mae corff wedi cael ei ddarganfod wedi i fabi Constance Marten a Mark Gordon fynd ar goll.
Cafodd Constance Marten, 35, a Mark Gordon, 48, eu harestio gan Heddlu Sussex yn Brighton nos Lun ar amheuaeth o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol.
Dywedodd yr heddlu nos Fercher fod corff wedi cael ei ddarganfod mewn coetir yn Brighton, yn agos i ble gafodd y cwpl eu harestio ddydd Llun.
Roedd y ddau wedi gwrthod datgelu ble roedd y babi, gan arwain at fwy na 200 o swyddogion yn chwilio amdano.
Wrth siarad â'r wasg nos Fercher, dywedodd y Ditectif Uwcharologydd Lewis Basford o Heddlu'r Met fod "swyddogion heddlu wedi darganfod corff babi yn agos i'r man lle y cafodd Constance a Mark Gordon eu harestio.
"Dwi'n cydnabod yr effaith y bydd y newyddion yma yn ei gael ar nifer o bobl sydd wedi bod yn dilyn y stori yn ofalus, ac fe allai eu sicrhau y byddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i geisio darganfod beth ddigwyddodd."
Roedd y cwpl wedi bod ar goll ers i'w car gael ei ddarganfod yn llosgi ar y M61 ger Bolton ar 5 Ionawr, ar ôl geni’r babi.
Dros yr wythnosau canlynol fe wnaeth y cwpl symud o gwmpas y DU, ac fe gafodd nhw eu gweld yn Lerpwl, Essex, dwyrain Llundain a Sussex.