Newyddion S4C

Pibell ddwr

Mis Chwefror ymysg y sychaf yng Nghymru meddai'r Swyddfa Dywydd

NS4C 01/03/2023

Fe wnaeth Cymru weld "llawer llai o law na'r arfer" ym mis Chwefror, yn ôl y Swyddfa Dywydd, gan godi pryderon am sychder yn y dyfodol.

Fe wnaeth Cymru gael 26.2mm o law sef 22% o'r cyfartaledd.

Mis Chwefor eleni oedd y sychaf mewn 30 mlynedd yn Lloegr. Ac roedd y DU yn ei chyfanrwydd hefyd wedi gweld llai na hanner y glaw cyfartalog ar gyfer y mis, gyda dim ond 45% o'r cyfartaledd.

Daw hyn wedi 2022 arbennig o sych, a welodd sychder mewn rhannau o Loegr o'r haf nes mis Tachwedd.

Dywedodd Dr Mark McCarthy o Ganolfan Wyboaeth Hinsawdd Cenedlaethol y Swyddfa Dywydd fod "ail hanner Ionawr wedi bod yn sych ar y cyfan ac fe wnaeth y thema yma barhau ym mis Chwefror".

Ychwanegodd Prif Weithredwr yr Asiantaeth Amgylchedd, John Leyland, fod "hyn yn dangos pam fod yr Asiantaeth Amgylchedd, cwmnïau dŵr a'n partneriaid yn gweithredu i sicrhau fod adnoddau dŵr yn y safle gorau posib ar gyfer yr haf ac ar gyfer sychder yn y dyfodol".

Cafodd Cymru gyfartaledd o 180.9 awr o heulwen, sydd yn 15% yn fwy na'r cyfartaledd. 

Mis Chwefror eleni oedd y pumed Chwefror mwyaf mwyn yn y DU ar gofnod. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.