Newyddion S4C

Banc Bwyd Arfon: ‘Stoc yn rhedeg yn isel ac yn digwydd yn amlach’

Banc Bwyd Arfon: ‘Stoc yn rhedeg yn isel ac yn digwydd yn amlach’

NS4C 02/03/2023

Mae Banc Bwyd Arfon yng Ngwynedd wedi apelio am roddion bwyd wedi i’w stoc “redeg yn isel iawn”.

Dywedodd Trey McCain, rheolwr Banc Bwyd Arfon, wrth Newyddion S4C fod lefelau stoc isel yn digwydd yn fwy aml erbyn hyn.

“Mae lefel stoc ni wedi gostwng llawer dros yr wythnosau diwethaf. Ers y Nadolig, ‘da ni’n ffeindio bod ni’n prynu lot o bethau, ,mae pobl yn hael iawn ond mae’r galw yn dal i gynyddu felly mae’r angen am roddion yn mynd yn fwy. 

“Ers i mi ddechrau gyda’r banc bwyd (yn 2017) dwi erioed wedi gweld stoc mor isel.  Dros y cyfnod y clo roedd pobl yn hael, ond gyda’r argyfwng costau byw mae pawb yn teimlo hynny ac felly dydy pawb ddim yn gallu ymateb yr un ffordd rhagor.”

Image
newyddion
Mae Trey wedi bod yn gwirfoddoli gyda'r Banc Bwyd ers 2017.

Er bod gostyngiad yn y rhoddion, cynnydd yn y nifer y bobl sydd yn defnyddio’r banc bwyd sydd wrth wraidd y broblem.

“Mae yna fwy a mwy o bobl yn dod i’r banc bwyd i ofyn am help. Rhai sydd heb fod o’r blaen, ond yn troi atom ni rŵan oherwydd bod nhw’n ffeindio bod y biliau yn rhy fawr i ymdopi," meddai Trey. 

“Mae pobl sydd hyd yn oed mewn gwaith llawn amser yn dod atom ni i gael help, ac mae hynny oherwydd bod prisiau yn mynd i fyny a chyflogau ddim.

“Mae pawb angen bwyta."

Mae’r Banc Bwyd sydd wedi ei leoli yng Nghaernarfon wedi addasu a chyflwyno gwasanaeth newydd oherwydd y galw.

“Da ni wedi dechrau sesiynau ‘croeso cynnes’ gan gynnig pryd o fwyd cynnes i bobl, a lle i sgwrsio achos 'da ni’n gweld lot o bobl sy’n teimlo yn isel,” meddai Trey.

'Bwyta pryd cynnes yn brin'

Mae’r banc bwyd hefyd yn pecynnu bwyd sydd dim angen ei gynhesu neu goginio gan fod y niferoedd sydd ddim yn berchen meicrodon neu bopty, neu ddim yn gallu fforddio biliau trydan wedi codi.

“Da ni wedi gorfod meddwl yn galed iawn am y bwyd da ni’n ei roi allan, fel bod pobl yn cael be maen nhw angen a bod yna ddigon o barseli i bawb.

“Da ni yn gweld pobl yn dod atom ni ac yn gofyn am fwydydd does dim angen cynhesu oherwydd diffyg nwy a thrydan.

“Mae byta pryd cynnes yn dechrau bod yn rhywbeth prin i rai.”

Er bod Trey yn obeithiol bydd y gymuned leol yn parhau i gefnogi'r banc bwyd drwy roddion neu arian, mae’n cyfaddef bod hi’n gyfnod "anodd iawn" i fanciau bwyd ac i’r rheini sy’n dibynnu ar eu gwasanaeth.

“Os ydy’r lefelau stoc isel yma yn parhau bydd rhaid ni feddwl yn greadigol iawn am beth i’w wneud a sut i ymateb. Dwi ddim yn hollol siŵr iawn sut, achos 'da ni heb wynebu hyn o blaen.”

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.