Newyddion S4C

Mark Gordon and Constance Marten

Y chwilio'n parhau am faban, wrth i'r heddlu gael rhagor o amser i holi cwpl

NS4C 01/03/2023

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi rhagor o fanylion am eu hymchwiliad i geisio dod o hyd i faban ar ôl i gwpl ddiflannu fis Ionawr cyn cael eu harestio nos Lun.  

Mae Constance Marten, 35, a Mark Gordon, 48, wedi eu harestio ar amheuaeth o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol, ond mae'r babi oedd gyda nhw, yn dal i fod ar goll.

Yn ôl yr heddlu, gallai'r baban fod wedi cael niwed. 

Mewn datganiad newyddion brynhawn Mercher, dywedodd yr heddlu fod y baban wedi ei weld ddiwethaf yn Newhaven ar 8 Ionawr.

Yn ôl y Ditectif Uwcharolygydd Lewis Basford, mae ymchwiliad trylwyr ar y gweill gyda hyd at 900 milltir sgwâr yn cael ei archwilio. 

Ychwanegodd mai Heddlu'r Met sy'n arwain yr ymchwiliad bellach a bod plismyn wedi bod yn archwilio ardaloedd Newhaven a dwyrain a gogledd Brighton.    

Ansicr

Mae'r heddlu wedi cael 36 awr yn ychwanegol i holi Constance Marten a Mark Gordon yn y ddalfa.

Roedd y cwpl wedi bod ar goll ers i'w car gael ei ddarganfod yn llosgi ar y M61 ger Bolton ar 5 Ionawr, ar ôl genedigaeth y  babi.

Yn ystod yr wythnosau canlynol, symudodd y ddau o gwmpas y DU, a chael eu gweld yn Lerpwl, Essex, dwyrain Llundain a Sussex. 

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw'n ansicr a gafodd y babi ei eni yn gynnar neu gydag unrhyw broblemau iechyd gan nad yw wedi derbyn unrhyw driniaeth feddygol ers cael ei eni. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.