Byddai bod yn gapten ar Gymru yn 'fraint enfawr', meddai Ampadu

Mae Ethan Ampadu wedi dweud y byddai'n 'fraint enfawr' petai'n cael ei benodi'n gapten ar dîm pêl-droed Cymru.
Ampadu yw un o'r enwau mae hyfforddwr Cymru, Rob Page wedi ei grybwyll i fod yn gapten wrth i gemau rhagbrofol Ewro 2024 agosáu.
Mewn cyfweliad gyda rhaglen Sgorio, dywedodd y chwaraewr o Chelsea, sydd ar fenthyg i Spezia yn yr Eidal, byddai'n "ymrwymo'n llwyr" petai'n olynu Gareth Bale fel capten.
"Mae'n anrhydedd i unrhyw chwaraewr fod yn gapten ar ei wlad. Dyw bod yn gapten ddim yn rhywbeth dwi wedi meddwl llawer amdano.
"Ond os ddaw’r cyfle unrhyw bryd yn y dyfodol, mi fuaswn i’n ymroi’n llwyr i’r tîm.
"Mae dal lot o chwaraewyr profiadol yn y garfan a lot o arweinwyr, ond os ddaw’r cyfle yn y dyfodol, mi fyddai’n fraint enfawr i mi."
Profiad
Wedi i Gareth Bale a Joe Allen ymddeol o dîm Cymru, mae Page yn edrych am arweinwyr newydd.
Mae Ampadu wedi ennill 40 o gapiau yn barod, ac yntau ond yn 22 oed.
Ar lefel clwb, mae'r dyn sydd yn gallu chwarae yn yr amddiffyn neu yng nghanol cae wedi bod ar fenthyg i glybiau yn uwch gynghreiriau'r Eidal, Lloegr a'r Almaen.
Gydag ystod o chwaraewyr ifanc nawr yn rhan o garfan Cymru, bydd eu profiad ar y llwyfan rhyngwladol ac i'w clybiau yn hanfodol i Gymru.
"Mae pawb yn ifanc a dwi ddim yn siŵr os i ni'n gallu cael ein hystyried fel chwaraewyr hŷn eto," meddai Ampadu.
"Mae dal lot o bethau ni angen ei brofi, ond dwi'n gwybod bydd pawb yn cymryd cyfrifoldeb pe bai'r cyfle yn dod i chwarae.
"Byddwn ni'n rhoi bob dim er mwyn cyrraedd yr Ewros. Hwnnw yw'r targed nesaf ac mae'r angerdd yna er mwyn gwneud hynny."