Newyddion S4C

Gorymdaith Dydd Gwyl Dewi

Dim diwrnod o wyliau i weithwyr Cyngor Gwynedd ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni

NS4C 01/03/2023

Yn wahanol i'r llynedd, ni fydd gweithwyr Cyngor Gwynedd yn cael diwrnod o wyliau ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni.

Roedd cabinet y cyngor wedi datgan y llynedd eu bwriad i gynnig 1 Mawrth fel gwyliau i’w staff, gan weithredu hynny ar Ddydd Gŵyl Dewi 2022.

Ond yn ôl y cyngor, dyw hynny ddim yn bosibl eleni, oherwydd yr heriau ariannol presennol.

“Ni fydd Cyngor Gwynedd ar gau ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni a bydd pob gwasanaeth ar agor fel arfer ar Fawrth 1, 2023," meddai llefarydd ar ran y cyngor.

“Roedd y penderfyniad y llynedd i roi diwrnod o wyliau i staff yn llwyddiannus a phoblogaidd.

“Ond mae cau gwasanaethau am y diwrnod yn costio arian ac o ystyried y sefyllfa ariannol anodd mae’r Cyngor yn ei wynebu penderfynwyd gohirio eleni.”

Ychwanegodd y llefarydd eu bod nhw’n gweithio gydag undebau llafur er mwyn ceisio sicrhau fod modd nodi Dydd Gŵyl Dewi yn 2024.

‘Mwynhau’

Ychwanegodd arweinydd y cyngor Dyfrig Siencyn ei fod yn “sarhaus” nad oedd yr hawl gan Gymru i ddewis cael diwrnod o wyliau ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Nododd fod Llywodraeth y DU yn fodlon dathlu coroni’r Brenin Charles III gyda dwy ŵyl y banc newydd.

Ond dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies, ar ôl cael ei benodi i’r swydd y llynedd y byddai yn well ganddo pe na bai Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl y banc.

Roedd hynny’n sicrhau bod plant yn yr ysgol yn dysgu am ddiwylliant Cymru yn hytrach na’n aros adref, meddai.

“Dw i’n amau oni bai eu bod nhw wedi bod yn yr ysgol, yn dathlu’r rhan hyfryd yma o ddiwylliant Cymru a’n mwynhau ychydig o’r iaith a’r dawnsio, fe fydden nhw adref ar y Playstation,” meddai.

“Mae’n llawer gwell gen i eu bod nhw’n dathlu diwylliant Cymru.”  

Llun: Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi gan Llywelyn2000 (CC BY-SA 4.0).

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.