Newyddion S4C

damwain tren Groeg

Dwsinau wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng dau drên yng Ngwlad Groeg

NS4C 01/03/2023

Mae o leiaf 36 o bobl wedi marw a nifer wedi’u hanafu yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau drên ger dinas Larissa yng Ngwlad Groeg nos Fawrth.

Yn ôl Prif Weinidog Gwlad Groeg, Kyriakos Mitsotakis, "mae'n drasiedi na ellir ei hamgyffred" ac mae tridiau o alaru cenedlaethol wedi ei gyhoeddi yn y wlad.

Roedd trên a oedd yn cludo 350 o deithwyr, yn teithio o Athen i ddinas ogleddol Thessaloniki pan darodd yn erbyn trên nwyddau, gan achosi tân mewn o leiaf un o’r cerbydau. 

Mae pryderon bod llawer mwy wedi eu lladd ac mae o leiaf  72 wedi eu cludo i ysbyty. 

Mae pennaeth yr orsaf yn Larissa wedi ei gyhuddo o ddynladdiad trwy esgeulusod. Mae e'n gwadu iddo wneud unrhywbeth o'i le, gan ddadlau mai methiant technegol posibl oedd ar fai.

Mae gweithwyr achub wedi bod yn gweithio gydol nos Fawrth a bore Mercher er mwyn ceisio achub rhagor o bobl .

Cafodd tua 150 o ddiffoddwyr tân a 40 o gerbydau ambiwlans eu galw, yn ôl gwasanaethau brys y wlad, gyda chraeniau hefyd yn cael eu defnyddio i gael gwared â malurion.

Mae Geraint Curig yn byw yn Ngwlad Groeg. Dywedodd ar raglen newyddion Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru bod diffyg buddsoddi ar y cledrau wedi bod yn broblem yng Ngwlad Groeg ond bod hynny wedi newid yn ddiweddar yn sgil ymdrechion ac anogaeth i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. 

"Mae buddsoddiad wedi bod, ond fe fydd y drychineb hon yn codi cwestiynau am reilffyrdd yng Ngwlad Groeg yn gyffredinol," meddai. 

Llun: Wochit

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.