Newyddion S4C

owain glyndwr.png

Owain Glyndŵr yn dychwelyd i achub gwesty

NS4C 01/03/2023

Bydd Owain Glyndŵr yn marchogaeth i achub gwesty hanesyddol yng Nghorwen ar Ddydd Gŵyl Dewi sydd â'r un enw â'r arwr hanesyddol. 

Mae'n rhan o fenter trigolion lleol i godi £500,000 er mwyn prynu gwesty hanesyddol Owain Glyndŵr a'i droi yn fenter gymunedol. 

Roedd y gwesty yn bodoli pan ddechreuodd Glyndŵr ei wrthryfel yn erbyn y Saeson ym 1400, ac mae'r gwesty bum milltir i'r gorllewin o Lyndyfrdwy lle yr oedd ei gartref. 

'Calonogol iawn'

Dywedodd Cadeirydd y Bartneriaeth, David Counsell, eu bod "angen £310,000 i brynu’r gwesty a £200,000 yn ychwanegol i wneud gwaith adfer ar yr adeilad a’i redeg fel menter gymunedol.

"Rydym yn annog pobl i wneud yr amser i ddod i lawr i’r OG a gweld drostynt eu hunain be sydd ar y gweill. Bydd ffurflenni ar gael i unrhyw un sydd eisiau archebu cyfranddaliadau yn y fan a’r lle."

Ychwanegodd Mr Counsell fod yr ymateb ers cyhoeddi'r cynllun wedi bod yn "galonogol iawn.

"Mae pawb yn holi, ac mae pawb yn gadarnhaol iawn. Rydym wedi derbyn nifer o ymholiadau gan gyn drigolion y dref, ac mae hynny’n wych gan nad oes rhaid byw yng Nghorwen i fod yn rhan o hyn."

Mae gan y fenter tan 1 Gorffennaf i godi'r arian er mwyn prynu'r gwesty gan y perchennog presennol. 

Bydd pedwar diwrnod o ddathliadau yn dechrau ar Ddydd Gŵyl Dewi, pan y bydd Owain Glyndŵr yn marchogaeth i ganol Corwen am 16:45. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.